Tymor arall yng Nghwpan Heineken i dimau Cymru

Lee Byrne Image copyright Getty Images
Image caption Lee Byrne yn sgorio cais i Clermont Auvergne

Wrth i Gwpan Heineken - prif gystadleuaeth rygbi Ewrop - ailddechrau'r penwythnos yma, fe fydd nifer o frwydrau unigol difyr yn wynebu sêr y gêm o Gymru.

Y Gweilch fydd yn dechrau pethau trwy groesawu Treviso nos Wener gyda'r tîm o Gymru eisoes wedi colli i'r Eidalwyr yn y Pro 12 y tymor hwn.

Yna ddydd Sadwrn bydd y Scarlets yn teithio i wynebu Clermont Auvergne cyn i'r Gleision deithio i wynebu Sale Shraks ddydd Sul.

Y tymor diwethaf cyhoeddodd y rhanbarthau uchafswm cyflog o £3.5 miliwn i'w carfannau ar gyfer y tymor presennol.

Ers hynny, mae llu o chwaraewyr rhyngwladol wedi gadael i ennill eu bara menyn mewn cynghreiriau sy'n medru talu mwy.

Scarlets

Un o'r brwydrau personol difyr fydd yr un rhwng cefnwr ifanc y Scarlets, Liam Williams, a Lee Byrne o Clermont yn y Stade Marcel Michelin ddydd Sadwrn.

Mae Williams yn bygwth lle Leigh Halfpenny fel dewis cyntaf Cymru fel cefnwr, ac yn ddiweddar fe gymrodd Williams le Byrne yng ngharfan Cymru ar gyfer taith yr haf i Awstralia.

Mae Byrne, 32 oed, wedi ennill 46 o gapiau i Gymru, ac fe fydd yn benderfynol o ddangos ei fod yn haeddu ei le yn y garfan o flaen cefnwr 21 oed y Scarlets.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby: "Mae Lee wedi cyflawni'r cyfan o safbwynt Cymru a'r Llewod.

"Mae Liam yn fachgen ifanc sydd wedi cymryd camau anferth, ac rydym yn teimlo'n bositif iawn am ei ddyfodol yn y gêm, ond rwy'n siwr y gwelwn ni tipyn o frwydr gan Lee."

Gleision

Dydd Sul bydd y Gleision yn teithio i wynebu Andries Pretorius ac Andy Powell o glwb Sale Sharks. Bydd yr wythwr o Dde Affrica - a fydd yn gymwys i chwarae o Gymru ar Ragfyr 1 ar sail preswyliad - yn aelod o academi'r Gleision pan oedd Powell yn y tîm cyntaf.

Dywedodd Pretorius, sydd bellach yn gapten ar y Gleision: "Mae'n gyfnod o newid mawr o safbwynt statws ariannol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r rhanbarthau i gyd yn mynd drwyddo.

"Ond ar yr un pryd mae llawer o dalent newydd yn ymddangos, a does ond raid i chi edrych ar Gymru'n ennill y Gamp Lawn deirgwaith yn y blynyddoedd diweddar i wybod nad oes modd dadlau gyda hynny."

Gweilch

Ond bydd y cyfan yn dechrau yn Stadiwm Liberty nos Wener gydag ymweliad Treviso.

Ac mae un o gyn sêr y Gweilch a Chymru wedi cyhoeddi rhybudd.

Mae Shane Williams bellach yn chwarae rygbi yn Japan, ac mae'n credu y bydd ei hen dîm yn ennill, ond y bydd hi'n agos.

"Rwy'n credu bod Treviso yn dîm peryglus iawn i wynebu ar y funud," meddai.

"Maen nhw'n chwarae rygbi da ac yn medru sgorio ceisiau gydag ymosodwyr peryglus.

"Fe fyddan nhw'n llawn hyder ar ôl curo'r Gweilch - fe fydd hi'n gêm anodd.

"Mae'r Gweilch yn dod dros eu dechrau gwael i'r tymor."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.