Gosod olwyn glofa yn Llai i gofio am y diwydiant

Olwyn Image copyright Vic Tyler-Jones
Image caption Bydd yr olwyn yn cael ei gosod ym mhentref Llai ger Wrecsam

Mae hen olwyn pwll glo yn cael ei lleoli ym mhentref Llai, ger Wrecsam, fel atgof o effaith y diwydiant ar yr ardal.

Roedd glofa Llai yn weithredol rhwng 1922 a 1966 ac, ar un adeg, hon oedd y lofa fwyaf ym Mhrydain.

Dywedodd Vic Tyler-Jones, ysgrifennydd Canolfan Treftadaeth Glowyr Llai, nad oedd ar hyn o bryd lawer i atgoffa pobl am fodolaeth y cyn-lofa.

"Mae angen rhywbeth gweladwy i atgoffa pobl am y gwaith a ddigwyddodd yma a'i bwysigrwydd i'r pentref," meddai.

"Tyfodd y pentref oherwydd y lofa, doedd dim pentref cyn i'r lofa ddod."

Mae'r olwyn yn pwyso tua 2.5 tunnell ac yn 13.5 troedfedd (4.12 metr) ar ei thraws.

"Byddwch yn methu ei hanwybyddu unwaith iddi gael ei gosod yn ei lle," meddai.

Mae'r olwyn yn dod yn wreiddiol o bwll glo'r Parlwr Du, a gaeodd yn 1996.

Cafodd ei chadw gan Ymddiriedolaeth Glowyr Sir Amwythig, sydd wedi ei rhoi i'r grŵp yn Llai.

Mae cwmni yn Nyserth, Sir Ddinbych, wedi bod yn adnewyddu'r olwyn.

Bydd yr olwyn yn cael ei gosod yn Llai ddydd Mawrth.

"Bydd yn gynhyrfus iawn gweld yr olwyn yn cael ei gosod yn ei lle," meddai Mr Tyler-Jones.

"Ymhen rhai wythnosau byddwn yn cael seremoni i ddathlu'r achlysur."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.