Cymru 2-1 Yr Alban

Gareth Bale Image copyright PA
Image caption Gareth Bale gafodd ddwy gôl Cymru

Gareth Bale oedd arwr Cymru wrth i'r tîm ennill eu gêm gyntaf yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Hon hefyd oedd buddugoliaeth gyntaf y rheolwr Chris Coleman.

Sgoriodd Bale ddwy gôl yn y 10 munud olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth sy'n golygu bod Cymru yn codi o waelod Grŵp A.

Rhoddodd James Morrison yr Ablan ar y blaen ar ôl cic hir lawr y cae ac amddiffyn blêr gan Gymru.

Daeth y gôl funudau'n unig ar ôl i Steven Morison ddod yn agos i roi Cymru ar y blaen.

Ar ôl y gôl daeth Ramsey yn agos gydag ergyd dros y bar ond roedd Morrison hefyd yn anlwcus i beidio rhoi'r Alban 2-0 ar y blaen.

Methodd Ramsey gyda chyfle gwych yn yr ail hanner ond gyda llai na 10 munud yn weddill sgoriodd Gareth Bale o'r smotyn ar ôl i ymosodwr Cymru gael ei lorio gan Shaun Maloney.

Yna yn y munudau ola fe aeth Bale lawr yr asgell chwith ac ergydio i gefn y rhwyd o 25 llath.

Gôl wych a mawr ryddhad i Gymru a Chris Coleman.

Cymru: Price, Gunter, Blake, Williams, Ben Davies, Bale, Allen, Vaughan, Ramsey, Ledley, Morison.

Eilyddion: Brown, Craig Davies, Ricketts, King, Richards, Church, Robson-Kanu, Vokes, Wilson, Fon Williams.

Alban: McGregor, Hutton, Caldwell, Berra, Fox, Maloney, Morrison, Darren Fletcher, Brown, Commons, Steven Fletcher.

Subs: Gilks, Mulgrew, Adam, McArthur, Miller, Mackie, Martin, Phillips, Webster, Forrest, Marshall.

Dyfarnwr: Florian Meyer (Yr Almaen)