Wrecsam 2-4 Lincoln

Image copyright bbc

Wrecsam 2-4 Lincoln

Hon oedd buddugoliaeth gynta' Lincoln oddi cartre' y tymor hwn.

Gwastraffodd Jamie Taylor ddau gyfle yn gynnar yn y gêm cyn i Nicky Nicolau saethu heibio Andy Coughlin.

Sgoriodd Lincoln eu hail gôl wedi 56 o funudau a Connor oedd biau'r drydedd.

Colin Larkin rhwtodd halen i mewn i'r briw wrth i Jay Colbeck a Joe Clarke rwydo i'r tîm cartre'.

Y golled gynta' ar y Cae Ras ers Ebrill ac roedd y perfformiad yn wael. Bydd Andy Morell yn siomedig.

Macclesfield 1-1 Casnewydd

Matthew Barnes-Homer chwalodd obeithion y Cymry o ennill yn Moss Rose.

Llwyddodd Tony James i sgorio i'r ymwelwyr yn sgil cic rydd Jake Thomson ar ôl 43 o funudau.

Fe ddylai Aaron O'Connor fod wedi sgorio'r ail ond saethodd dros y trawst.

Macclesfield oedd yn rheoli yn yr ail hanner a pheniodd Barnes-Homer naw munud cyn diwedd y gêm.

Hon oedd ei 10fed gôl y tymor hwn.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.CASNEWYDD 15 14 33
2.WRECSAM 15 11 29
3. Luton 15 7 29
4. Grimsby 15 12 27
5. Forest Green 15 10 27

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.