Hanes animeiddio yng Nghymru

Logo Animeiddio Cymru Image copyright Amgueddfa Cymru
Image caption Mae'r arddangosfa newydd yn olrhain hanes animeiddio yng Nghymru

Dros y 30 mlynedd diwethaf, ers dechrau S4C, mae cartwnau a rhaglenni wedi'u hanimeiddio wedi bod yn rhan bwysig o'r amserlen.

Yn Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe mae arddangosfa wedi agor yn olrhain hanes animeiddio yng Nghymru a hynny ymhell cyn sefydlu'r sianel.

SuperTed oedd y cymeriad oedd yno ar y dechrau un, pan ddaeth S4C i fodolaeth yn 1982, ac mae'n cael lle anrhydeddus yn yr arddangosfa.

Ond mae hanes animeiddio yng Nghymru yn mynd yn ôl llawer ymhellach.

"Daeth y syniad yn wreiddiol gan berson o'r enw Gerald Emanuel sy'n gweithio i Brifysgol Morgannwg," eglurodd Owain Rhys, curadur bywyd cyfoes Amgueddfa Cymru.

"Roedd o'n arfer gweithio ar raglenni fel Wil Cwac Cwac yn yr 1980au ac roedd o'n meddwl fod animeiddio heb gael y clod haeddiannol.

"Felly dyma ni'n dechrau trafod a meddwl - 2012 - pen-blwydd S4C yn 30 - ac o fanna naeth yr arddangosfa datblygu."

Newid

Eglurodd mai'r cartŵn mwya' gwreiddiol yn yr arddangosfa yw Jerry the Tyke a gafodd ei wneud gan berson o'r enw Sid Griffiths o Gaerdydd yn 1926.

"Roedd y cymeriad Jerry the Tyke yn bodoli cyn Mickey Mouse hyd yn oed," ychwanegodd Mr Rhys.

Mae Naomi Jones yn gynhyrchydd gyda chwmni Cartŵn Cymru ac mae hi'n falch iawn o weld yr arddangosfa.

"Mae'r diwydiant animeiddio wedi bod ar dipyn o 'roller coaster' yn y blynyddoedd diwetha'," meddai.

"Fe fuodd y diwydiant yn fawr iawn ac yn cyflogi lot fawr o bobl.

"Mae pethau'n newid trwy'r amser, falle bod pethau ddim cweit mor uchel ar hyn o bryd ond yn sicr mae'r diwydiant wedi gwneud marc ar y diwydiant darlledu.

"Mae'r rhaglenni wedi cael eu gwerthu ledled y byd, wedyn mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu."

'Cynnyrch gwreiddiol'

Un o'r cartwnau sydd i'w gweld ar S4C yn ogystal â CBeebies, RTE yn Iwerddon a BBC Alba yw'r Abadas gan gwmni Dinamo o Drefforest ger Pontypridd.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y cwmni, Owen Stickler, bod y busnes ar hyn o bryd yn gwneud yn lled dda.

"Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn ers dechrau'r cwmni wyth mlynedd yn ôl.

"Rydyn ni'n gwmni Cymraeg, rydyn ni isio creu cynnyrch gwreiddiol Cymraeg gallwn ni fynd allan i'r byd ac adennill llif o arian hir dymor i mewn i'r wlad."

Mae'r arddangosfa ar hanes Animeiddio Cymru yn Amgueddfa'r Glannau, Abertawe, tan fis Mawrth nesaf, ac fe fydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ddiwedd mis Hydref.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.