Coleman yn galw am warchod Bale

Gareth Bale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gareth Bale oedd seren y gêm yn erbyn Yr Alban

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi galw ar y dyfarnwr i warchod Gareth Bale yn y gêm yn erbyn Croatia nos Fawrth.

Alexandru Tudor o Romania fydd y dyfarnwr ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn Osijek.

Sgoriodd Bale ddwy gôl Cymru yn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Yr Alban nos Wener, ac unig gôl Cymru yn y golled o 6-1 yn erbyn Serbia ym mis Medi.

Ond mae Chris Coleman yn credu fod timau yn targedu seren Tottenham Hotspur a Chymru.

Dadleuol

"Mae timau yn rhoi dau neu dri chwaraewr arno fe - fe wnaeth y Belgiaid hynny, fe wnaeth y Serbiaid hynny. Fe geisiodd Yr Alban wneud ac fe fydd Croatia yn gwneud yr un peth," honnodd Coleman.

"Mae'n mynd i ddigwydd ymhob gêm. Dydw i ddim yn dweud bod angen gwarchodaeth ychwanegol gan y dyfarnwr, dim ond ei fod yn cael ei siâr."

Roedd rhai yn honni fod gôl gyntaf Bale yn erbyn Yr Alban - o'r smotyn - yn ddadleuol, ond gwadu hynny wnaeth Coleman, gan ychwanegu nad oedd Cymru wedi mwynhau penderfyniadau o'u plaid gan ddyfarnwyr.

"Mae Shaun (Maloney) wedi dweud ei fod wedi cyffwrdd â Bale achos mae e'n fachgen gonest.

"Pan ydych chi'n rhedeg mor gyflym ag yr oedd Bale, mae'r cyffyrddiad lleiaf yn mynd i'ch baglu.

"Ond mae nifer yr achlysuron pan nad yw Bale yn cael ciciau rhydd pan mae'n eu haeddu yn sylweddol. Yn erbyn Gwlad Belg, roedden ni'n siomedig gyda nifer y penderfyniadau aeth yn ein herbyn.

"Hefyd fe ddylen ni fod wedi cael dwy gic arall o'r smotyn yn erbyn Yr Alban, ond mae pawb yn siarad am y gôl na chafodd ei chaniatáu i'r Alban.

"Cysondeb yw'r hyn yr ydym yn gofyn amdano."

Wrth baratoi ar gyfer y gêm nos Fawrth, mae un o arwyr pêl-droed Croatia, Davor Suker, wedi dweud y dylai Gareth Bale symud.

Dywedodd cyn ymosodwr Real Madrid, sydd bellach yn llywydd Cymdeithas Bêl-droed Croatia, y dylai Bale fynd i Real Madrid os caiff y cyfle er mwyn gwella ei yrfa.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.