Ymchwiliad i lofruddiaeth

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl diflaniad Catherine Gowing 38 oed, o New Brighton, Sir Fflint.

Dywed yr heddlu eu bod yn awyddus i ddod o hyd i gar Renault Clio lliw porffor gyda'r rhif cofrestru Gwyddelig 00D99970.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.