Rhybudd am lifogydd ar hyd arfordir Cymru

Tywydd stormus ar yr arfordir (cyffredinol) Image copyright Getty Images
Image caption Dywed yr asiantaeth y dylai pobl fod yn ofalus wrth gerdded neu yrru ger yr arfordir yn ystod y dyddiau nesaf.

Gallai gwyntoedd cryfion a llanw uchel ar yr arfordir arwain at lifogydd ddydd Mercher, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae'n debygol y bydd gwyntoedd cryfion ar arfordir y de a'r gorllewin.

Dywedodd yr asiantaeth fod 12 rhybudd llifogydd a 11 rhybudd llifogydd byddwch yn barod ar hyn o bryd.

Mae modd gweld y manylion diweddara' ar wefan yr asiantaeth.

Dylai pobl fod yn ofalus wrth gerdded neu yrru ger yr arfordir yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae rhybudd llifogydd byddwch yn barod mewn lle ar gyfer arfordir gogledd Cymru, arfordir Llŷn a Bae Ceredigion, arfordir Gorllewin Môn, yr arfordir o Aberddawan hyd at Bont Hafren, arfordir Sir Gâr, arfordir Sir Benfro, arfordir Ceredigion, aber Afon Gwy, aber Afon Wysg a Bae Abertawe ac arfordir Gŵyr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd gryfhau hyd at lefel "storm" ac y gallai hyn effeithio ar yrwyr.

Gwyliadwrus

Yn ôl yr asiantaeth, mae'r rhagolygon yn dangos y gallai llifogydd effeithio ar ffyrdd, tir amaethyddol ac adeiladau diarffordd.

Ar yr arfordir dylai pobl fod yn wyliadwrus rhag ofn bod rhywun yn cael ei ysgubo gan donnau neu'n cael ei fwrw gan rywbeth wedi ei hyrddio gan y tonnau.

Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Behnaz Akhgar, mai'r ardal lle oedd mwyaf o bryder oedd lle oedd Afon Hafren yn cyrraedd y môr oherwydd gwyntoedd cryfion yn chwythu o'r de-orllewin.

Dylai'r gwyntoedd ostegu ddydd Iau, meddai, ac fe fyddai'r tywydd yn gwella erbyn y penwythnos.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.