Achos llofruddiaeth: Achos yn dod i ben yn sydyn

Roy Sly Image copyright Other
Image caption Cafwyd hyd i gorff Roy Sly yn ei fflat ym mis Ionawr

Mae achos llys yn erbyn dau wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth wedi dod i ben yn sydyn.

Roedd Peter Smith, 38 oed o Droed-y-rhiw, Merthyr Tudful, a Vincent Harty, 39 oed o Shoebury, wedi eu cyhuddo o ladd Roy Sly, 53 oed, yn ei fflat yn Westcliff, Essex.

Yn Llys y Goron Chelmsford rhyddhaodd y barnwr y rheithgor cyn pennu dyddiad ar gyfer achos newydd ar Dachwedd 19.

Cafwyd hyd i gorff Mr Sly, 53, yn ei fflat ar Ionawr 10.

Roedd y ddau wedi gwadu llofruddio Mr Sly rhwng Ionawr 8 a 10 eleni.