Achub 'lloches' prin yn Sir Gâr

Lloches Image copyright other
Image caption Roedd rhwd wedi dechrau ymddangos cyn i'r lloches gael ei hadfer

Mae hen loches bws sy'n dyddio nôl i ganol y ganrif ddiwetha' wedi ei hadfer diolch i waith gwirfoddolwyr a busnesau lleol yn y gorllewin.

Nawr maen nhw am wybod mwy am hanes y lloches wnaeth gychwyn ei bywyd yng ngorsaf bysiau Llanelli a diweddu ger croesfan rheilffordd ym Mhorth Tywyn.

Fe wnaeth busnesau lleol godi arian er mwyn adfer y fframwaith dur a haearn sydd nawr yn rhoi cysgod rhag y glaw i bobl sy'n aros i groesi'r rheilffordd.

Dywed Fay Hampson iddi gael ei hysbrydoli i adfer y lloches ar ôl gweld dau ddyn rhyw ddiwrnod wrth y safle gyda'u camerâu.

Lloches bws

"Ro' ni'n meddwl eu bod yna i dynnu llun trên stem, sydd weithiau yn dod trwy'r orsaf," meddai Ms Hampson.

"Ond na, dywedodd y dynion eu bod yno i gymryd lluniau o'r lloches, oherwydd bod y math yma o loches yn brin iawn, iawn erbyn heddiw.

"Dwi'n difaru peidio â gofyn iddynt am eu henwau oherwydd iddynt ddweud eu bod am gynnwys y lluniau mewn llyfryn am lochesi bysiau unigryw neu anarferol ym Mhrydain."

Image caption Tasg nesaf y gwirfoddolwyr yw plannu blodau ger y lloches

Dywedodd Ms Hampson iddi wedyn fynd ati i gasglu arian a threfnu gwirfoddolwyr i adfer y safle.

"Mae busnesau lleol wedi bod yn hael dros ben, a bu dim prinder o wirfoddolwyr."

"Roedd yn rhaid cael caniatâd y cyngor sir oherwydd mai nhw piau'r safle a'r tir o'i gwmpas."

Ychwanegodd iddi hi ac eraill wedyn dechrau ymddiddori mwy yn hanes y lloches.

"Rydym wedi gweld lluniau o'r lloches pan oedd e'n rhan o brif orsaf bysiau Llanelli nol yn y 60au, ac mae yna bobl leol hefyd yn ei gofio."

Croesfan

Dywedodd mai'r bwriad gwreiddiol wrth i'r orsaf bws gael ei hadleoli yn y 90au oedd i doddi'r llochesi ac ailgylchu'r haearn.

Cafodd tair o'r llochesi eu cadw.

Fe wnaeth cynghorydd lleol o Borth Tywyn, John Rees, berswadio'r awdurdodau i roi un o'r llochesi ar gyfer croesfan Porth Twyn.

Aeth yr ail loches i Ffordd Dyfatty, Porth Tywyn a'r llall i bentre' cyfagos Pinged.

"Does neb yn gwybod beth oedd hanes y lloches ym Mhinged, ond dyw e ddim yna heddiw, na chwaith yr un ar Ffordd Dyfatty," meddai Ms Hampson.

Yn ôl Ms Hampson roedd yna ddefnydd helaeth o'r lloches ym Mhorth Tywyn, gan fod Pwerdy Bae Caerfyrddin yn cyflogi cannoedd ar y pryd, gyda nifer yn dal y trên am adre'.

Etifeddiaeth

Yn ystod haf eleni aethpwyd ati i lanhau'r gwaith haearn ac yna i beintio'r lloches drwy ei chwistrellu.

"Roedd hynny'n bwysig gan fod e wedi dechrau rhydu mewn mannau," meddai Ms Hampson.

"Ond mae'r fframwaith yn gadarn, a nawr yn smart unwaith eto.

"Mae angen rhoi ffenestri 'nôl mewn ac yna fe awn ni ati i blannu planhigion yn y tir o'i gwmpas.

"Mae'n rhan o'n hetifeddiaeth ac yn bwysig, ond mae e hefyd yn dal i gael ei ddefnyddio fel cysgodfa i'r rhai sydd am ddefnyddio'r groesfan."

Bydd yna seremoni swyddogol i ail agor y lloches gyda Maer Porth Tywyn yn torri'r rhuban.

Dywed Ms Hampson fod y gwirfoddolwyr hefyd am gyhoeddi llyfryn sy'n sôn am eu gwaith a hefyd hanes y lloches.

"Ond mae yna rhai manylion sy'n dal yn eisiau, pryd yn union cafodd y lloches ei chodi yn y lle cyntaf, a phryd a sut iddi gael ei symud i Borth Tywyn?"

"Felly os oes yna rywun gydag atgofion neu hen luniau byddai'n dda cael clywed ganddyn nhw."

Hefyd ar y BBC