Dyn o Dreletert am apelio yn erbyn dyfarniad

John Cooper Image copyright Other
Image caption Cafwyd John Cooper yn euog o ddwy lofruddiaeth ddwbl

Clywodd Llys Apêl yng Nghaerdydd y bydd penderfyniad ar Hydref 31 a fydd llofrudd yn cael yr hawl i apelio yn erbyn dyfarniad.

Cafodd John Cooper, 66 oed o Dreletert, Sir Benfro, ddedfryd oes fis Mai'r llynedd am ddwy lofruddiaeth ddwbl chwarter canrif yn ôl.

Roedd wedi gwadu iddo lofruddio Richard a Helen Thomas yn Scoveston yn 1985 a Richard a Gwenda Dixon ar lwybr yr arfordir bedair blynedd yn ddiweddarach.

Hefyd roedd yn euog o ymosod yn ddifrifol ar griw o bobl ifanc.

Roedd aelodau teulu'r Dixon a brawd a chwaer yng nhyfraith Cooper yn y llys.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.