Damwain farwol ym Mhowys: Cyhoeddi enw menyw

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio wedi i fenyw farw ar ôl i gar ei tharo ym Mhowys nos Wener.

Cafodd Zoe Hughes, 39 oed o Nortyn ger Llanandras, ei chludo i Ysbyty Henffordd lle bu farw o'i hanafiadau.

Roedd y ddamwain ar y B4355 rhwng Llanandras a Nortyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.