Synnu nad oes galw am fwy o bwerau

Yr Arglwydd John Morris o Aberafan
Image caption Mae'r Arglwydd Morris yn synnu nad yw'r Cynulliad wedi hawlio mwy o bwerau eisoes

Mae un o sylfaenwyr y broses ddatganoli wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi ei synnu nad yw gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi mynd ati i hawlio rhagor o bwerau deddfu.

Mae'r Arglwydd John Morris o Aberafan yn awgrymu y dylai bod 'na gais wedi cael ei wneud am yr hawl i ddeddfu ym meysydd plismona, yr amgylchedd a darlledu.

Roedd o'n Dwrne Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraethau Llafur y 1970au.

Mae'r llywodraethau presennol yn anghytuno yn aml am gynnwys cyfreithiau.

Mae llawer yn dadlau nad yw'r drefn gyfansoddiadol sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn galluogi i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i wneud eu gwaith yn iawn.

Fe fydd y cyn-Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol, Cynog Dafis - sy'n rhan o brosiect o'r enw 'Y Deyrnas Gyfunol: Undeb sy'n newid" - yn cyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Silk, y comisiwn sy'n edrych ar ddyfodol datganoli ar ran Llywodraeth Prydain.

Mae'n dadlau bod angen ehangu'r adnoddau sydd ar gael i'r Cynulliad.

'Cynulliad mwy'

"Ar hyn o bryd mae gan y Cynulliad 60 o aelodau sy'n ei gwneud yn gynulliad hynod o fach, llawer llai na'r Alban a Gogledd Iwerddon," meddai.

"Dydi hyn ddim yn debygol o newid tan y bydd 'na fwy o bwerau.

"Mae angen trosglwyddo cyfrifoldeb am yr heddlu rhagor o bwerau ar drafnidiaeth, ynni a rhai ar ddarlledu.

"Petai hyn yn digwydd, fe fydd angen ystyried maint y Cynulliad."

Ond yn ôl yr Arglwydd Morris, mae'n synnu nad ydy gwleidyddion Bae Caerdydd wedi gofyn eisoes.

"Dwi ddim yn deall pam nad ydyn nhw wedi symud yn gyflymach.

"Dwi wedi bod yn gweiddi am dros ddegawd am bwerau darlledu.

"Dwi'n teimlo'n gryf iawn o ran yr amgylchedd ac am bwerau'r heddlu sy'n gweithio yn agos iawn efo gwasanaethau cymdeithasol.

"Fe ddylai'r ddarpariaeth fod o fewn Cymru.

"Os nad ydyn nhw'n gofyn am yr hawl.... pwy a ŵyr beth fydd yr ateb."

Rhaglen graffu

Fe fydd ymchwil 'Y Deyrnas Gyfunol: Undeb sy'n newid" yn edrych ar faint y Cynulliad ynghyd ag atebolrwydd a phwerau'r corff a dulliau craffu.

Dyma elfen angenrheidiol, yn ôl Cadeirydd y pwyllgor llywio, Yr Athro Richard Wyn Jones.

"Mae 'na gwestiynau sylfaenol yn codi ynglŷn â chraffu yn y cyd-destun Cymreig.

"Yn gyntaf o ran y Cynulliad ei hun, ydi 60 o aelodau yn ddigon i graffu ar raglen ddeddfwriaethol gynradd lawn?

"Mae craffu yn mynd y tu hwnt i aelodau etholedig.

"Mae'n ymwneud â'r wasg...undebau...elusennau....gwasanaethau gwirfoddol...i fod wrth y llwyfan yn gweiddi ac yn pwyntio at broblemau."

Mae craffu ar waith gweinidogion a Llywodraeth Cymru yn angenrheidiol yn ôl Yr Arglwydd Morris yn enwedig yn ystod cyfnod sydd wedi gweld ffrae wleidyddol ym myd addysg.

"Dwi ddim eisiau bod yn feirniadol, ond mae 'na ddiffyg beirniadaeth o weinidogion a Llywodraeth Cymru.

"Mae'n bwysig mewn unrhyw ddemocratiaeth bod beirniadaeth yn cael ei wyntyllu, bod yr adnoddau a'r wybodaeth ganddyn nhw a'u bod yn ddigon dewr i godi'r materion a chael dadl gweddol ddwfn ar y problemau ar lawr y Senedd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.