Yr Arglwydd John Morris o Aberafan
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Arglwydd yn synnu am ddiffyg hawlio rhagor o bwerau deddfu yng Nghymru

19 Hydref 2012 Diweddarwyd 06:51 BST

Mae un o sylfaenwyr y broses ddatganoli wedi dweud wrth y Post Cyntaf ei fod wedi ei synnu nad yw gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi mynd ati i hawlio rhagor o bwerau deddfu.

Mae'r Arglwydd John Morris, a fu'n Dwrne Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru hefyd, wedi dweud fod angen craffu gwell ar waith gweinidogion a Llywodraeth Cymru.

Bu'n trafod ei safbwyntiau ymhellach gyda Siân Elin Dafydd.