Rygbi 13: Ffrainc 20-6 Cymru

Tempers fray in Lens as the Wales and France rugby league players scuffle Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd llawer o golli tymer yn y gêm yn Lens

Colli wnaeth T¥m Rygbi 13 Cymru yn eu gêm gyntaf yng nghyfres triongl yr hydref yn Lens yn erbyn Ffrainc.

Roedd David James wedi rhoi Cymru ar y blaen gyda chais cynnar, ond Ffrainc reolodd gweddill yr hanner gan sgorio tri chais cyn yr egwyl.

Sgoriodd Romaric Bemba, Cyril Stacul a Thomas Bosc yn fuan ar ôl ei gilydd.

Mae angen i Gymru felly guro Lloegr yn Wrecsam ddydd Sadwrn nesa er mwyn cadw unrhyw obaith o gyrraedd y rownd derfynol yn Salford ar Dachwedd 11.

Wedi 50 munud fe welodd prop Cymru a Wigan, Gil Dudson, gerdyn melyn am dacl hwyr ar Barthau, ac fe ddilynnodd cyfnod o daflu dyrnau wrth io'r ddau dîm golli tymer.

Llwyddodd Bosc i ymestyn mantais Ffrainc gyda'r gic gosb ddaeth yn sgil hynny.

Ond llwyddodd Cymru i adfer eu hunan barch drwy beidio ildio mwy o bwyntiau cyn ddiwedd y gêm.