Achub pysgotwr wedi ton anferth

Gwylwyr y Glannau
Image caption Cafodd gwylwyr y glannau alwad ychydig wedi 9am ddydd Sul

Cafodd pysgotwr ei achub o Fae Ceredigion wedi i don anferth chwalu'r ffenestri ar ei gwch fore Sul.

Dywedodd gwylwyr y glannau yn Aberdaugleddau eu bod wedi derbyn galwad ychydig wedi 9:00am oedd yn agos i arfordir Ceredigion.

Gan fod y don wedi chwalu'r ffenestri, roedd dwr y môr yn llifo i mewn i'w gwch, ac roedd y pysgotwr yn bryderus iawn.

Aeth dau o fadau achub Ceredigion i gynnig cymorth iddo, ac fe lwyddon nhw i bwmpio'r dŵr o'r cwch a'i lusgo i'r lan.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau: "Roedd wedi cael ysgytwad, ond roedd yn ddiolchgar iawn."