Biggar yng ngharfan Cymru

Dan Biggar
Image caption Mae Biggar wedi ennill naw cap dros Gymru

Mae maswr y Gweilch, Dan Biggar, wedi ei gynnwys yng ngharfan rygbi Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae 'na un wyneb newydd ymhlith y blaenwyr, sef prop y Gweilch, Aaron Jarvis - fe yw'r unig un heb gap yn y garfan 35-dyn a ddewiswyd gan Rob Howley.

Mae'r canolwr Jamie Roberts hefyd yn dychwelyd ar ôl gwella o'i anaf ar draul Aled Brew, ac mae Sam Warburton yn parhau yn gapten.

Fe fydd y garfan yn teithio i Wlad Pwyl y penwythnos hwn i baratoi.

Bydd Pencampwyr y Byd, Seland Newydd, ymhlith y timau fydd yn wynebu Cymru yng ngemau'r hydref

Bydd enillwyr y Gamp Lawn yn herio'r Crysau Duon yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 24, am 5:15pm.

Cyn y gêm honno, bydd Cymru'n croesawu Ariannin ar Dachwedd 10fed, cyn wynebu Samoa ar nos Wener, Tachwedd 16.

Yn dilyn yr ornest yn erbyn Seland Newydd, bydd Cymru'n cwblhau cyfres yr hydref gyda gêm yn erbyn Awstralia ar Ragfyr 1.

Cefnwyr: L Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets), A Cuthbert (Gleision), G North (Scarlets), H Robinson (Gleision), A Beck (Ospreys), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), S Williams (Scarlets), D Biggar (Gweilch), J Hook (Perpignan), R Priestland (Scarlets), T Knoyle (Scarlets), M Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision).

Blaenwyr: S Andrews (Gleision), R Bevington (Gweilch), P James (Caerfaddon), A Jarvis (Gweilch), G Jenkins (Toulon), A Jones (Gweilch), R Hibbard (Gweilch), K Owens (Scarlets), M Rees (Scarlets), B Davies (Gleision), L Charteris (Perpignan), I Evans (Gweilch), A-W Jones (Gweilch), T Faletau (Dreigiau Gwent), R Jones (Gweilch), R McCusker (Scarlets), A Shingler (Scarlets), J Tipuric (Gweilch), J Turnbull (Scarlets), S Warburton (Gleision, capten).

Straeon perthnasol