Damwain ar yr M4: Oedi yng Nghasnewydd

Ffordd yr M4 ger cyffordd 25 Image copyright Traffic Wales
Image caption Bu rhan o'r ffordd ddwyreiniol ar gau tan 7:50am yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori, dau gar a beic modur.

Bu tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd wedi i lonydd ar y ffordd ddwyreiniol gau yn dilyn damwain fore Llun.

Bu rhan o'r ffordd ddwyreiniol ar gau tan 7:50am yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori, dau gar a beic modur.

Erbyn hyn mae'r cerbydau wedi cael eu symud oddi ar y ffordd rhwng cylchfan Coldra ar gyffordd 24 a gwasanaethau Magwyr ar gyffordd 23A.

Bu adroddiadau o dagfeydd yn ymestyn hyd at gyffordd 25.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.