Helynt ffermydd gwynt yn rhwygo cymunedau?

Mae peryg i gynlluniau i godi ffermydd gwynt yn y canolbarth rwygo rhai o gymunedau Sir Drefaldwyn.

Yn ôl amryw sydd o blaid ynni gwynt, mae ymddygiad protestwyr yn fygythiol ar brydiau, ac yn eu gwneud nhw i ofni dangos eu cefnogaeth i'r datblygiadau.

Mae rhaglen BBC Cymru ar gyfer S4C, Taro Naw wedi siarad â nifer sy'n ofni mynegi barn yn gyhoeddus, ac mae sawl un wedi dweud wrth y rhaglen eu bod yn bryderus am effaith hir dymor y rhwyg ar rai o gymunedau'r ardal.

Ystyried troi at drais

"Mi ydan ni'n cael ein brawychu," meddai un ffermwr o Sir Drefaldwyn nad oedd am gael ei adnabod.

"'Dach chi ddim isio troi fyny a chael eich brawychu.

"Mae bywyd rhy fyr i hynna.

"Os nad ydach chi yn hollol yn erbyn ynni gwynt mae pobl yn meddwl bod chi'n hurt.

"'Dan ni ofn siarad dros ynni adnewyddol. Mi ges i brofiad erchyll ym Meifod pan es i weld arddangosfa yn ddiweddar.

Image copyright bbc
Image caption Mae rhai protestwyr wedi sôn wrth Taro Naw y byddan nhw'n ystyried troi at drais

"Bu bron i mi gael fy rheibio," meddai Buddug Bates, cyn-brifathrawes leol a gwraig y cyn Aelod Cynulliad, Mick Bates.

Yr hyn sydd wedi achosi'r fath ddadlau ffyrnig yw cynlluniau i godi 23 o ffermydd gwynt newydd yn y canolbarth.

Fe fyddai hefyd rhaid cael rhwydwaith 30 o filltiroedd o hyd yn cynnwys peilonau a cheblau dan ddaear i gludo'r ynni i weddill y Grid Cenedlaethol yn Lloegr.

Helynt

Does dim amheuaeth bod 'na wrthwynebiad cryf iawn i'r cynlluniau fel y dangosodd y brotest gan 1,500 o drigolion y canolbarth y tu allan i'r Cynulliad y llynedd.

Mae 'na rai protestwyr wedi sôn wrth Taro Naw y byddan nhw'n ystyried troi at drais os nad ydyn nhw'n llwyddo i atal y datblygiadau.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae cynlluniau i godi 23 o ffermydd gwynt newydd yn y canolbarth

"Mae rhai yn credu mewn dulliau gweithredu mwy cadarn.

"Dwi ddim. Ond dwi yn credu os nad ydan ni'n medru stopio'r Grid Cenedlaethol y bydd pobl yn teimlo nad oes ganddyn nhw opsiwn arall," meddai Jonathan Wilkinson, Cadeirydd MAP (Montgomeryshire Against Pylons).

Er mai rhywbeth diweddar ydy'r gwrthdystio, mae pobl ar y ddwy ochr i'r ddadl yn gytûn mai'r hyn ddechreuodd yr holl helynt oedd dogfen Llywodraeth Cymru o'r enw Tan 8 gyhoeddwyd yn 2005.

Amlinellodd honno'r ardaloedd yng Nghymru ble gallai datblygwyr geisio am ganiatâd i godi ffermydd gwynt.

Fe siaradodd Taro 9 â sawl un yn yr awdurdodau lleol fu ynghlwm â'r broses saith mlynedd yn ôl.

Caniatâd cynllunio

Mae un cyn-swyddog oedd ynghlwm â'r broses yn 2005 yn dweud fod y polisi wedi ei wthio ymlaen gan Lywodraeth Cymru heb ymgynghoriad trylwyr a llawn.

"Fe roedd 'na ymgynghoriad," meddai Iwan Evans, cyn-bennaeth cynllunio Cyngor Gwynedd.

"Faint o sylw a wnaed i'r sylwadau gan wahanol bobl, dwi ddim yn sicr, ond doedd na ddim llawer o wahaniaeth rhwng y fersiwn drafft a'r fersiwn terfynol."

Mae tair ardal datblygu ynni adnewyddol yn y canolbarth, ac mae'r Grid Cenedlaethol a chwmnïau datblygu yn parhau i geisio cael caniatâd cynllunio gan gynghorwyr Powys a Llywodraeth y DU.

Mae presenoldeb y protestwyr yn amlwg iawn mewn cyfarfodydd cynllunio Cyngor Powys.

Ond pryder rhai o drigolion y canolbarth yw bod llais y rhai sy'n fwy pleidiol i'r melinau gwynt yn cael ei foddi oherwydd natur y protestio.

Taro 9 gan BBC Cymru ar S4C am 9pm nos Fawrth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.