Apêl am symudiadau'r dyn ar gyhuddiad o lofruddio milfeddyg

Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Mae'r heddlu yn dal i chwilio am Catherine Gowing sydd heb gael ei gweld ers dros wythnos

Mae'r heddlu'n sy'n parhau i chwilio am filfeddyg yn apelio am help y cyhoedd ynglyn â symudiadau'r dyn ar gyhuddiad o'i llofruddio.

Dydi Catherine Gowing, 37 oed, ddim wedi ei gweld ers tua 8.40pm nos Wener Hydref 12.

Roedd hi'n byw ym mhentref New Brighton ger Yr Wyddgrug a rhywun wedi ei gweld yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry,

Mae dyn 46 oed, Clive Sharpe o Fethesda, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

Daethpwyd o hyd i gar Ms Gowing, yn wreiddiol o bentref Birr yn Sir Offaly, Gweriniaeth Iwerddon, mewn hen chwarel yn Alltami ychydig filltiroedd o'i chartref.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Pierece fod timau arbenigol wedi bod yn archwilio sawl lleoliad yn y gogledd.

'Yn fanwl iawn'

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Mae'r heddlu yn awyddus i gael gwybod am symudiadau Clive Sharpe a'i gar

"Mae'r archwilio'n parhau mewn chwarel ac mewn coedwig yn Alltami lle cafodd car Renault Clio porffor Ms Gowing ei ganfod.

"Ac mae'r gwaith yn fanwl iawn er mwyn sicrhau ein bod yn cael unrhyw wybodaeth all ein helpu i ddod o hyd iddi."

Dywedodd ei fod yn hynod ddiolchgar i'r gymuned leol am yr holl gymorth a roddwyd eisoes.

"Unwaith eto dwi'n apelio am eu cymorth.

"Dwi'n awyddus iawn i wybod ble aeth cerbyd Clive Sharpe.

'Volvo du'

"Rydym eisiau gwybod am y symudiadau rhwng dydd Gwener Hydref 12 a dydd Llun Hydref 15.

"Mae'n berchen ar Volvo S40 du â'r rhif cofrestru AG58 JHE.

"Os gwelodd rhywun y car rhwng tua 10pm nos Wener a 6pm ddydd Llun dwi'n awyddus iawn i glywed ganddo.

"Yn benodol a welodd rhywun y car yn agos at gartref Catherine yn New Brighton neu ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Sir Gaer."

Dywedodd fod teulu Ms Gowing yn parhau yn y gogledd ac yn helpu'r heddlu.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.