Cadarnhau dyddiad isetholiad De Caerdydd a Phenarth

Alun Michael Image copyright Welsh Labour
Image caption Roedd gan Mr Michael fwyafrif o 4,709 yn 2010

Bydd isetholiad yn cael ei gynnal yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth ar Dachwedd 15.

Gwnaed y cyhoeddiad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.

Daw'r sedd yn wag ar ôl i Alun Michael, Llafur, benderfynu gadael y senedd er mwyn ymgeisio ar gyfer swydd newydd comisiynydd yr heddlu.

Bydd yna isetholiadau hefyd yn etholaethau Corby a Chanol Manceinion ar yr un diwrnod.

Mae'r etholiadau ar gyfer 41 o gomisiynwyr yr heddlu hefyd yn cael eu cynnal ar Dachwedd 15.

Roedd gan Mr Michael fwyafrif o 4,709 yn Etholiad Cyffredinol 2010 yn dilyn gogwydd o 6% i'r Ceidwadwyr.

Cafodd ei ethol gyntaf i gynrychioli'r etholaeth yn 1986.

Mae Mr Michael ymhlith pedwar ymgeisydd sy'n sefyll am swydd Comisiynydd Heddlu De Cymru.

Y tri arall yw Michael Baker (annibynnol), Caroline Jones (Ceidwadwr), a Tony Verderame (annibynnol).

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.