Ashley Williams yn ymestyn ei gyfnod gydag Abertawe

Ashley Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Ashley Williams yn parhau yn Stadiwm Liberty tan 2015

Fe arwyddodd capten Cymru ac Abertawe gytundeb gyda'r Elyrch tan 2015.

Cafodd Ashley Williams ei enwi'n gapten Cymru yn gynharach yn y mis.

Roedd wedi arwyddo cytundeb tair blynedd ym mis Awst 2011 ond mae ei berfformiad ar y cae yn golygu iddo gael cynnig cytundeb gwell.

Roedd 'na adroddiadau yn awgrymu y byddai'n symud i Lerpwl ac ymuno a'i gyn-reolwr Brendan Rodgers a'i gyd-chwaraewr yn nhîm Cymru, Joe Allen.

"Dwi'n falch iawn fy mod wedi arwyddo," meddai.

Daw hyn wedi i gôl-geidwad Yr Elyrch, Michel Vorm, arwyddo cytundeb hirdymor yn Stadiwm Liberty.

Mae cefnwr chwith Cymru ac Abertawe, Neil Taylor, wedi cyfadde' ei fod yntau am arwyddo cytundeb wrth i'r rheolwr Michael Laudrup obeithio cadw ei brif chwaraewyr.

'Munud ola'

Ymunodd Williams ag Abertawe ar fenthyg o Stockport ym mis Mawrth 2008.

Trodd y cytundeb yn barhaol.

Chwaraeodd ran allweddol wrth arwain Yr Elyrch i ddyrchafiad o'r Bencampwriaeth i'r Uwch Gynghrair.

"Dwi'n cofio arwyddo ar fenthyg ar y funud ola' yn 2008," meddai.

"Fe wnes i gyrraedd y stadiwm yn hwyr, arwyddo'r cytundeb ar flaen y car a'r ysgrifennydd yn rhedeg i fyny'r grisiau i'w ffacsio.

"Wnes i erioed ddychmygu sut y byddai pethau'n digwydd.

'Yn wahanol'

"Mae bod yn gapten clwb, fy ngwlad a chwarae ybob wythnos yn yr Uwch Gynghrair yn freuddwyd i nifer.

"Dwi wedi mwynhau pob blwyddyn yma.

"Mae wedi bod yn wahanol, yn rhannol oherwydd newid rheolwr ond mae agosatrwydd y sgwad yn parhau.

"Un o'r pethau gorau am chwarae yma ydi'r chwaraewyr.

"Maen nhw'n griw gwych a dwi'n edrych 'mlaen i fynd i hyfforddi bob dydd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.