Menyw wedi marw yn Eryri

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i fenyw gwympo a marw yn Eryri fore Mercher.

Cafodd yr heddlu wybod am 11.36am fod menyw wedi cwympo ar Grib y Ddysgl.

Wedyn cyhoeddwyd bod y fenyw 26 oed wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn casglu manylion oddi wrth dimau achub mynydd.