To ysgol newydd yng Nghaernafon yn gollwng

Ysgol yr Hendre Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd yr ysgol newydd wobr rhagoriaeth BREEAM am fod yn adeilad 'gwyrdd'

Bydd yn rhaid i adeiladwyr ddychwelyd i drwsio to ysgol newydd gwerth £9.3 miliwn yng Nghaernarfon sy'n gollwng.

Agorodd Ysgol Yr Hendre ym Mis Mawrth eleni ar gyfer 450 o ddisgyblion ac mae wedi ei galw'n yn un o'r ysgolion yn un o'r mwyaf "gwyrdd" yn y wlad.

Oherwydd dulliau adeiladu, mae'r ysgol newydd yn cadw'n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf sy'n lleihau costau gwresogi a gostyngiad o 60% mewn allyriadau carbon yn ystod oes yr adeilad.

Mae'r adeilad hefyd yn gallu ailgylchu dŵr glaw.

Llwybr cerdded

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn ymwybodol o'r broblem ac fe fyddai'r cwmni a adeiladodd yr ysgol yn delio â'r mater,

Y nod wrth godi adeilad newydd Ysgol Yr Hendre oedd darparu adnodd i'r gymuned leol yn ogystal ag ysgol i'r disgyblion.

Ond cyn i'r ysgol agor bu'n rhaid rhoi'r gorau am y tro i gynlluniau i greu llwybr cerdded trwy fynwent Llanbeblig wedi gwrthwynebiad gan bobl leol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.