Galw am fwy o hawliau i rieni maeth

Rhieni maeth
Nid oes gan lawer o rieni maeth yr hawl i gael torri gwallt y plentyn sydd yn eugofal

Daeth rhybudd gan y Rhwydwaith Maethu nad yw plant mewn gofal maeth yn cael profiad o blentyndod go iawn am nad yw rieni maeth â'r hawl i wneud penderfyniadau sylfaenol.

Daw'r rhybudd ar drothwy cyhoeddi adroddiad - Fel Pawb Arall - gan elusen blaenllaw sy'n seiliedig ar arolwg o dros 1,000 o rieni maeth ar draws y DU, a 130 yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn dangos nad oes gan rieni maeth yr hawl i wneud rhai penderfyniadau sylfaenol am y plant yn eu gofal, gan gynnwys :-

  • Nid oes gan 22% yr hawl i benderfynu os yw'r plentyn yn eu gofal yn cael torri ei wallt;
  • Nid yr 41% yn cael rhoi caniatâd i'r plentyn yn eu gofal aros dros nos gyda chyfaill;
  • Nid oes gan 31% yr hawl i ganiatáu i blentyn fynd ar drip ysgol.

Oedi

Yn hytrach, mae'n rhaid i rieni maeth ofyn i weithiwr cymdeithasol i roi caniatâd, ac yn aml mae'n rhaid iddyn nhw yn eu tro ofyn i uwch-reolwr sydd, efallai, ddim yn nabod y plentyn na'r rhieni maeth.

Mae hyn yn arwain at oedi, ac yn aml mae'r plentyn maeth yn methu bod yn rhan o weithgaredd all arwain at fwlio gan fod y broses yn eu gosod ar wahân i blant eraill.

Dywedodd Freda Lewis o'r Rhwydwaith Maethu yng Nghymru: "Ni ddylai unrhyw blentyn golli rhan o'u plentyndod am nad yw'r bobl sy'n eu hadnabod orau, ac sydd â'r cyfrifoldeb o gefnogi eu datblygiad fod heb yr hawl i wneud penderfyniadau sylfaenol am eu bywydau bob dydd.

"Mae rhieni maeth yn gwneud penderfyniadau fel hyn am eu plant eu hunain, ac maen nhw'n teimlo'n israddol ac wedi eu tanseilio am nad ydyn nhw'n medru gwneud yr un peth i blant maeth o dan eu gofal.

"Mae angen newid sylweddol i'r diwylliant o fewn i'r system, ac yn hytrach na chael gweithiwr cymdeithasol i lofnodi'r ffurflen, y rhiant maeth ddylai wneud."

Plant bregus

Er bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y broblem, dywed 61% o ofalwyr maeth yng Nghymru bod lefel yw awdurdod sydd ganddynt i wneud penderfyniadau naill ai wedi aros yr un peth neu wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ychwanegodd Ms Lewis: "Mae'r sustem yn ymddiried mewn gofalwyr maeth i ddarparu cartref sefydlog a diogel i rai o'n plant mwyaf bregus, ond ddim yn ymddiried ynddyn nhw i gael torri gwallt y plant.

"Dylai awdurdodau lleol weld dirprwyo awdurdod i ofalwyr maeth fel cam positif.

"Bydd yn rhoi mwy o amser i weithwyr cymdeithasol, ac yn lleihau biwrocratiaeth ddianghenraid."

Fel rhan o'r ymgyrch Fel Pawb Arall, mae'r Rhwydwaith Maethu yn argymell y dylai penderfyniadau bob dydd gael eu dirprwyo'n awtomatig i'r rhieni maeth oni bai bod rheswm da i beidio, ac y dylai'r pedwar corff llywodraethol yn y DU gynnal cynlluniau i gynorthwyo awdurdodau lleol i weithredu hyn.