Amheuaeth a fydd Adam Jones yn chwarae yn erbyn Yr Ariannin

Adam Jones Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae gan Adam Jones anaf i'w ben-glin

Mae 'na amheuaeth na fydd prop pen-tynn Cymru Adam Jones ar gael ar gyfer gêm gyntaf gemau rhyngwladol yr hydref.

Yr Ariannin fydd y gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ar Dachwedd 10 yng Nghaerdydd.

Cafodd Jones anaf i'w ben-glin unwaith eto wrth i'w dîm Y Gweilch golli yn erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Heineken dros y penwythnos.

Bydd ei absenoldeb yn rhoi cyfle i'w gyd-chwaraewr gyda'r Gweilch, Aaron Jarvis, ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Scott Andrews o'r Gleision yw'r dewis arall oni bai bod Paul James yn symud o'r prop penrhydd.

"Mae pen-glin Adam wedi bod yn achosi trafferthion iddo ers pedair neu bum wythnos bellach," meddai hyfforddwr blaenwyr Y Gweilch, Jonathan Humphreys.

"Mae o wedi rhoi'r tîm gyntaf ac wedi chwarae drwy'r boen, ond dros y penwythnos fe wnaeth anafu'r pen-glin eto.

"Mae'r prop pen-tynn yn lle nad ydi Cymru wedi cael lot o ddyfnder yn y gorffennol, ond gobeithio y bydd Aaron yn cael rhywfaint o gêm, yn cael cyfle i wneud ei farc."

Dyw'r blaenasgellwr Dan Lydiate ddim ar gael ar gyfer y gemau ar ôl torri ei ffêr.

Fel rhan o baratoadau Cymru ar gyfer y gyfres bydd Cymru yn teithio i Spala yng Ngwlad Pwyl ar gyfer wythnos o hyfforddiant.

Ond fydd y chwaraewyr sydd chwarae i glybiau Ffrainc a Lloegr ddim yn bresennol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.