Debenhams i agor yng Nghasnewydd wrth i'r cwmni ehangu

Arwydd siop Debenhams
Image caption Bydd y siop yng Nghasnewydd yn rhan o ddatblygiad canolfan siopa newydd Friars Walk

Mae cwmni Debenhams wedi cadarnhau y bydd siop newydd yn agor yng Nghasnewydd yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae'n un o 17 o siopau newydd y bydd y cwmni yn eu hagor yn y DU.

Daw'r cadarnhad wrth i'r cwmni gyhoeddi elw cyn treth o dros £158 miliwn rhwng mis Medi 2011 a mis Medi 2012.

Mae hyn yn gynnydd o dros 4%.

Bydd 1,700 o swyddi yn cael eu creu yn yr holl siopau newydd.

Daw hyn hefyd wedi i 18 o siopau gael eu moderneiddio dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe fydd y siop yng Nghasnewydd yn rhan o ddatblygiad canolfan siopau newydd, Friars Walk.

Yn ôl datblygwyr y ganolfan, Queensberry Real Estate, bydd y cynllun cyfan yn creu tua 1,100 o swyddi newydd.

Ymhlith y llefydd eraill y bydd y cwmni yn agor siopau yn y DU y mae Cheshire Oaks, Yr Amwythig, Fort Kinnaird, Beverley, Wandsworth, Scunthorpe a Darlington.

Bydd y cwmni hefyd yn cynyddu eu siopau tramor, agor 20 newydd yn y pedair blynedd nesaf a chynyddu eu gwasanaeth ar-lein i 30 o wledydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.