Eglwys yn Aberystwyth i gau yn dilyn pryderon diogelwch

Eglwys Gatholig y Forwyn Fair a Santes Gwenfrewi yn Aberystwyth
Image caption Mae 'na gynlluniau i adeiladu eglwys newydd tua dwy filltir y tu allan i'r dref ym Mhenparcau

Ddydd Sul bydd yr offeren olaf yn cael ei chynnal mewn eglwys Babyddol sy'n destun ffrae rhwng yr Esgob a phlwyfolion.

Mae Esgob Mynyw Thomas Burns wedi dweud bod angen dymchwel Eglwys Babyddol y Forwyn Fair a Santes Gwenffrewi yn Aberystwyth am resymau diogelwch.

Yn hytrach na gwario miliynau o bunnoedd ar wella cyflwr yr adeilad presennol, mae'r esgobaeth yn awyddus i werthu'r safle ac adeiladu eglwys newydd tu allan y dref.

Ond mae rhai plwyfolion yn anfodlon - gan ddweud nad oes angen gwario cymaint ar yr adeilad ac y byddai ei symud allan o ganol y dref yn ei gwneud hi'n anodd i bobl fynd yno i addoli.

Problemau iechyd a diogelwch

Y bwriad yw codi eglwys newydd ym Mhenparcau ar gyrion Aberystwyth ond gallai gwasanaethau gael eu cynnal mewn canolfan gymunedol neu ysgol leol yn y cyfamser.

Cafodd Eglwys Babyddol y Forwyn Fair a Santes Gwenfrewi ei hadeiladu ym 1874 ac mae 300 o bobl yn addoli mewn tri gwasanaeth yno bob dydd Sul.

Mae'r safle yn Ffordd y Frenhines yn cynnwys neuadd blwyf, sydd wedi dirywio, a thŷ offeiriad.

Yn ôl yr Esgobaeth fe fyddai'n costio mwy na £2.6 miliwn i adfer yr adeiladu hyn ond mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn anghytuno gan honni y byddai'r gost tua £625,000.

Ym mis Medi eleni dywedodd yr Esgob Burns, sydd wedi'i leoli yn Abertawe, mewn neges fugeiliol, nad oedd yr eglwys yn addas i bwrpas a gallai gael ei gau oherwydd problemau iechyd a diogelwch.

Cafodd y gwrthwynebwyr eu rhybuddio gan yr Esgob i "gamu yn ôl" neu y gallan nhw fod heb unrhyw le i addoli.

Sicrwydd yswiriant

Mae plwyfolion wedi eu hysbysu na fydd yr eglwys yn cael ei hyswirio i Dachwedd 1 a bydd yr offeren olaf yn cael ei chynnal ddydd Sul.

Dywedodd yr Esgob Burns: " Fyddwn i ddim yn gyrru car hen yswiriant ac ni allaf gadw eglwys ar agor heb yswiriant oherwydd bod yr yswirwyr yn argymell y dylen ni gau'r eglwys a thŷ'r offeiriad i atal y peryg i bobl."

Dywedodd gwrthwynebwyr eu bod nhw wedi cynnal arolwg o'r eglwys gan honni ei bod "mewn cyflwr syndod o dda" ac y byddai'r gost o adfer yr adeilad tua £625,000.

Dywedodd un ohonynt, Lucy Huws: "Rwy'n methu â deall y gallai eglwys o bwysigrwydd hanesyddol sy'n ganolog i dref a chymuned Aberystwyth yn cael ei chau am nad yw cwmni yswiriant yn fodlon adnewyddu ei sicrwydd yswiriant.

"Mae'r cyhoeddiad wedi ein siomi am ei fod wedi digwydd dim ond diwrnod wedi i'r Esgob weld tirfesuriad annibynnol gafodd ei gomisiynu gan blwyfolion.

"Mae'r tirfesuriad yn dweud bod yr adeilad "mewn cyflwr syndod o dda o ran adeiledd" ac y byddai'r gwaith i adfer yr adeilad yn addas i'r diben yn £625,000."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Esgob Burns ymateb ynghylch manylion tirfesuriad y plwyfolion.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.