Ail rownd siomedig i Donaldson

Jamie Donaldson Image copyright Getty Images
Image caption Jamie Donaldson sydd ar y blaen yn Shanghai

Mae'r Cymro Jamie Donaldson yn dal o fewn cyrraedd i'r ceffylau blaen er iddo gael rownd siomedig ar ail ddiwrnod pencampwriaeth Meistri BMW yn Shanghai.

Torrodd Donaldson record y cwrs ar y diwrnod cyntaf, ac roedd ar y blaen o bedair ergyd dros nos.

Ond cafodd rownd o 74 - dwy ergyd dros y safon - yn ei ail rownd i'w adael chwe ergyd y tu ôl i Peter Hanson o Sweden.

Er i Donaldson gael tair pluen yn ei ail rownd, fe ildiodd ergydion ar bum twll arall wrth iddo golli tir ar Hanson a phrif ddetholyn y byd Rory McIlroy.

Er hynny, mae Donaldson yn sicr o'i le yn y drydedd rownd yfory, ac fe fydd yn gobeithio gorffen yn gryf i ychwanegu'r bencampwriaeth ar yr un enillodd ym mis Gorffennaf, sef Pencampwriaeth Agored Iwerddon.

CYSTADLEUAETH MEISTRI BMW - LAKE MALAREN, SHANGHAI (Diwedd yr ail rownd)

1. Peter Hanson (Sweden) = -14 (66;64)

2. Rory McIlroy (Gogledd Iwerddon) = -12 (67;65)

3. Robert Karlsson (Sweden) = -9 (71;64)

=4. Shane Lowry (Iwerddon) = -8 (72;64)

=4. Justin Rose (Lloegr) = -8 (68;68)

=4. Alexander Noren (Sweden) = -8 (68;68)

=4. Jamie Donaldson (Cymru) = -8 (62;74)

Straeon perthnasol