Cynnal y briodas gyntaf ers 175 o flynyddoedd ar ôl 6pm

Modrwyon Image copyright PA
Image caption Fe newidiodd y ddeddf ynglŷn â phriodas ar Hydref 1, 2012

Bydd y briodas gyntaf mewn 175 o flynyddoedd i'w chynnal yng Nghymru ar ôl 6pm yn digwydd yng Nghonwy ddydd Sadwrn.

Daw hyn oherwydd newid yn y gyfraith, oedd tan yn ddiweddar, yn nodi bod yn rhaid i briodasau gael eu cynnal rhwng 8am a 6pm.

Bydd y briodas yn Swyddfa Gofrestru Conwy.

Cafodd y ddeddf wreiddiol o gynnal seremonïau rhwng 8am a 6pm, ei chyflwyno er mwyn rhwystro priodasau gael eu cynnal yn y dirgel.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy eu bod wedi cysylltu â siroedd eraill yng Nghymru ac maen nhw'n credu mai nhw' yw'r cyntaf i gynnal priodas ar ôl 6pm.

Traddodiad

"Roedd y rheolau yn ymwneud a phriodas yn dyddio nôl i Orffennaf 1837," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

Y nod oedd rhwystro pobl rhag priodi yn y dirgel.

"Dyma hefyd pam fod eglwysi yn draddodiadol yn cyhoeddi enwau'r sawl sy'n bwriadu priodi rhai wythnosau cyn y digwyddiad mawr.

Dyw'r Eglwys yng Nghymru heb gynnal unrhyw drafodaethau eto i benderfynu a fyddan nhw hefyd yn cynnal priodasau ar ôl 6pm.

Dyw enw'r ddau fydd yn priodi yng Nghonwy ddydd Sadwrn heb eu cyhoeddi.

"Roedd yn rhaid cynnal priodas rhwng 8am a 6pm ond nawr mae modd cynnal sermemoni unrhyw amser ac ar unrhyw ddiwrnod, cyn belled a bod yr awdurdod lleol yn cytuno," meddai llefarydd ar ran Cyngor Conwy.

Dywedodd Dave Rees, prif gofrestrydd Conwy, fod y rhan fwyaf o awdurdodau heb benderfynu eto a fyddan nhw'n cynnig priodasau ar ôl 6pm.

"Ond rwy'n falch o ddweud y bydd Conwy yn cynnal priodas ddydd Sadwrn Hydref 27 a hynny ar ôl 6pm."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.