Caerdydd 4-0 Burnley

Joe Mason roddodd y tîm cartref ar y blaen wedi tri munud Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Joe Mason roddodd y tîm cartref ar y blaen wedi tri munud

Caerdydd 4-0 Burnley

Mae Caerdydd yn ôl ar frig y Bencampwriaeth ar ôl ennill am y seithfed tro o'r bron gartref y tymor yma.

Dyma oedd buddugoliaeth mwya'r Adar Glas y tymor yma.

Joe Mason; Craig Noone; Matthew Connolly ac Aron Gunnarsson gafodd y goliau.

Wedi tri munud y sgoriodd Mason ar ôl i ergyd Noone ddod i'w lwybr ar ôl taro'r postyn pella.

Dyblodd Noone y fantais gydag ergyd o 25 llath cyn i'r bar rwystro ei drydedd ergyd.

Peniad oedd gôl Connolly gyn i Gunnarsson gwblhau'r sgorio.

Daeth y ddwy gôl olaf o fewn tair munud i'w gilydd yn 10 munud olaf y gêm.

Mae'r canlyniad yn rhoi arwydd clir o oruchafiaeth y tîm cartref.

Roedd Peter Whittingham yn allweddol yng nghanol y cae ac roedd perfformiad Kim Bo-Kyung wedi creu argraff, y gêm gyntaf iddo gychwyn y tymor yma.

Methodd Burnley, sydd heb reolwr, a sgorio ac ychydig iawn o fygwth Caerdydd wnaethon nhw yn ystod y gêm ac eithrio cyfnod byr iawn ar ddechrau'r ail hanner.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
GEMAU GWAHANIAETH GOLIAU PWYNTIAU
1. CAERDYDD 13 11 28
2. Caerlŷr 13 8 25
3. Middlesbrough 13 3 25
4. Crystal Palace 13 2 24
5. Blackburn 13 5 23
6. Nottingham Forest 13 6 21

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.