Manchester City 1-0 Abertawe

Carlos Tevez Image copyright Getty Images
Image caption Carlos Tevez gafodd unig gôl y gêm

Manchester City 1-0 Abertawe

Colli oedd hanes Abertawe ar eu hymweliad a'r pencampwyr yn y gêm hiraf yn hanes yr Uwch Gynghrair.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Manchester City wedi codi i'r ail safle er gwaetha'r ffaith nad oedd y perfformiad yn un o argyhoeddiad.

Am yr awr gyntaf roedd pethau yn mynd yn dda i'r ymwelwyr yn Stadiwm Etihad.

Bu ond y dim i Abertawe fynd ar y blaen, croesiad gan Pablo Hernandez a Miguel Michu yn gorfodi Joe Hart i arbed yn wych.

Ond wedyn llwyddodd y dewin o'r Ariannin, Carlos Tevez, i gael y bêl dros 30 llath o'r gôl ac yn curo Michel Vorm.

Ond roedd hi'n ergyd dwbl i Abertawe wrth i Tevez guro Vorm fe gafodd y gôl-geidwad ei anafu'n ddifrifol a bu'n rhaid ei gario oddi ar y cae.

Cadw meddiant

Roedd Manchester City yn dîm gwahanol yn yr ail hanner, yn creu problemau.

Ond hyd at y gôl, Abertawe oedd wedi creu'r tri chyfle gorau.

Roedden nhw wedi gwneud yn dda iawn yn rheoli am gyfnodau da, yn cadw meddiant ac yn creu problemau i chwaraewyr Manchester City a Hart yn y gôl.

Eu hunig fai oedd methu sgorio.

Roedd ergyd arbennig Tevez yn hwb i dîm Roberto Mancini oedd yn chwilio am fuddugoliaeth ar ôl colli yng nghanol yr wythnos efo ymdrech siomedig yn Ewrop.

Cafodd Micah Richards ei anafu yn y gêm i Man City.

O ganlyniad i anafiadau Vorm a Richards a gafodd driniaethau ar y cae roedd 'na 12 munud o amser ychwanegol am anafiadau ar ben y 90.

Mae'n golygu mai dyma'r gêm hiraf yn hanes y gynghrair.

TABL UWCHGYNGHRAIR
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Chelsea 8 13 22
2. Man City 9 9 21
3. Man United 8 10 18
4. Arsenal 9 8 15
5. Everton 8 6 15
10. ABERTAWE 9 1 11

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.