Cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle

Person dan bwysau
Image caption Person dan bwysau yn diodde o iechyd meddwl

Beth sy'n dod i'r meddwl pan fydd rhywun yn sôn am gymorth cyntaf?

Efallai eich bod chi wedi bod ar gwrs sy'n eich dysgu sut i roi cusan bywyd i berson sy'n sâl?

Mae deddfwriaeth yn golygu fod pobl â sgiliau cymorth cyntaf a phecynnau cymorth cyntaf yn gyffredin yn y gweithle.

Ond beth os yw rhywun yn isel neu â phoen meddwl?

Fydde chi'n gwybod sut i ymateb?

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i hyfforddi fel bod modd iddyn nhw adnabod arwyddion salwch meddwl.

Maen nhw'n cyllido nifer o gyrsiau sy'n para tua 12 awr ac sy'n cael eu cynnig ar y cyd ag elusen Mind Cymru.

Eisoes mae un o gwmnïau mwyaf Cymru, Airbus ym Mrychdyn Sit y Fflint, sydd â gweithle o 6,000 o bobl, wedi hyfforddi 60 o weithwyr i roi cymorth cyntaf iechyd meddwl.

Nod y cwmni ydi y bydd 250 o staff wedi'u hyfforddi yn y pen draw.

Mae Airbus yn honni fod y buddsoddiad wedi cael effaith fawr gyda nifer y staff sy'n aros o'r gwaith oherwydd problemau emosiynol ac iechyd meddwl wedi haneru ers i'r cynllun gael ei gyflwyno.

Dywedodd Ian Barr, hyfforddwr Cymorth Cyntaf Meddyliol Airbus ym Mrychdyn, eu bod yn hyfforddi'r union yr un math o sgiliau a chymorth cyntaf corfforol.

"Mae angen gallu adnabod pan fo rhywun mewn argyfwng, sut i'w helpu drwy roi cefnogaeth ar y pryd.

"Ond hefyd mi rydan ni'n eu cyfeirio at ofal pellach os ydyn nhw ei angen.

"Mi rydan ni wedi helpu nifer fawr o bobl dros y blynyddoedd a gyda'n cefnogaeth ni maen nhw - am aros yn y gwaith ac mae hynny'n helpu nhw wrth siarad yn gymdeithasol."

Mae nifer o staff Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi manteisio o'r sgiliau sy'n eu helpu i sylwi ar arwyddion o broblemau iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr.

'Angen cymorth'

"Pan mae'n dod at fyfyrwyr, rydach chi'n dueddol o ddarganfod wrth yfed bod popeth yn dod i'r golwg ac mae gan bawb broblem," meddai Charlie Peters sy'n gweithio mewn bar yn Aberystwyth.

"Ond mi allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng y rhai sydd wedi meddwi a'r rhai sydd wir angen help neu rywun i siarad.

"Mae hyd yn oed yn fater o alw am ambiwlans neu hyd yn oed siarad â nhw. Mae'n dechneg digon defnyddiol i wybod."

Dywedodd bod hi'n haws weithiau gan rai i beidio siarad â rhywun mewn awdurdod.

"Dwi'n gweithio mewn bar. Dwi'n meddwl fod pobl yn teimlo wedi'u cysuro gan rywun fel 'na - dwi'n ffrind ac yn rhywun alle'n nhw ddod i'w gweld."

Eglurodd bod iselder yn broblem fawr yn arbennig ymysg myfyrwyr, y tro cyntaf i nifer fod oddi cartre', yn gorfod edrych ar ôl eich hun, gwneud gwaith coleg a bod yn annibynnol yn eitha' sydyn.

"Mae llawer o fyfyrwyr yn ymdopi ond mae llawer ohonyn nhw yn diodde'," ychwanegodd Ms Peters.

"Cyn mynd ar y cwrs, doeddwn ni ddim yn sylweddoli pa mor hawdd oedd hi i fod ag iselder.

"Ond mae 'na lawer o gymorth allan yna os ydach chi'n gwybod ble i edrych. Mae'r cwrs wedi agor fy llygaid."

Erbyn mis Tachwedd mae disgwyl i'r nifer o bobl yng Nghymru sydd wedi derbyn hyfforddiant gyrraedd 10,000.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.