Pryderon am gynllun ynni wrth i ymgynghoriad ddechrau

Peilonau trydan
Image caption Mae'r Grid Cenedlaethol yn ffafrio codi peilonau ar draws Ynys Môn a chroesi Afon Menai

Mae 'na bryder mawr y bydd cynllun i gludo trydan rhwng gogledd Môn a Phentir yn difwyno ardal arbennig o hardd yn ogystal ag amharu ar dai cyfagos.

Bydd angen cysylltu fferm wynt newydd Celtic Array oddi ar arfordir Môn, a'r Wylfa B arfaethedig, gyda'r grid cenedlaethol a dyw'r rhwydwaith presennol ddim yn ddigonol.

Gallai'r cynllun gostio hyd at £2.5 biliwn, yn dibynnu ar y llwybr gaiff ei ddewis.

Mae'r Grid Cenedlaethol nawr wedi dechrau proses ymgynghori fydd yn para tan ddechrau Rhagfyr.

Maen nhw'n awyddus i gasglu barn y cyhoedd ynglyn â'r dewisiadau posib i gludo trydan o ogledd Môn i'r tir mawr.

Mae sawl cynllun dan ystyriaeth, gan gynnwys gosod ceblau o dan y môr o ogledd Môn i Gei Conna.

Ond y dewis sy'n cael ei ffafrio gan y Grid Cenedlaethol yw codi peilonau ar draws yr ynys a chroesi Afon Menai ger Pont Britannia.

Opsiynau eraill?

Ond mae'r ddau gynghorydd sir sy'n cynrychioli'r Felinheli a Phentir yn gwrthwynebu.

Mae'r cynghorydd John Wyn Williams, sy'n cynrychioli Pentir, yn derbyn fod angen creu'r cysylltiad newydd i gludo trydan ond yn anhapus â'r dewis sy'n cael ei ffafrio.

"Pam allan nhw ddim meddwl am ffordd arall - dan ddaear, er enghraifft?" gofynnodd. "Dwi'n gwybod bod hynny'n lot mwy costus, ond pa gost sydd 'na pan 'da chi'n hagru cefn gwlad?

"Hefyd dwi'n methu deall pam na fyddan nhw'n mynd o dan y môr, na mai'r National Grid ydyn nhw, bod o'n genedlaethol," ychwanegodd Mr Williams.

Mae'r cynghorydd dros Y Felinheli, Sian Gwenllian, hefyd yn derbyn fod angen creu'r cysylltiad newydd ond mae hi'n cytuno y dylid edrych ar ddewisiadau posib eraill, megis mynd dan y môr i Gei Conna.

"Mater o ymgynghoriad ydy'r cyfnod yma," meddai, "ac mi f'aswn i'n annog pawb sydd ddim am weld ceblau a pheilonau yn dinistrio harddwch naturiol ein hardal ni i ddweud hynny a'i ddweud yn glir iawn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

"Mae 'na arddangosfeydd yn cael eu cynnal o gwmpas y lle. 'Swn i'n annog pobl i fynd i weld be' sy' dan ystyriaeth ac i leisio'u gwrthwynebiad rwan."

'Rhatach'

Meddai Dwynwen Williams, llefarydd ar ran y Grid Cenedlaethol:

"Mae'r opsiwn 'da ni'n gynnig ac yn ei drafod fel yr un 'da ni'n ffafrio ar hyn o bryd yn gwneud y gorau o'r rhwydwaith ar y tir yng Ngwynedd.

"Mae o hefyd tua £800 miliwn yn rhatach na rhai o'r opsiynau eraill.

"Mae hynny'n bwysig - pwy sy'n talu am unrhyw gynllun fel hyn ydy'r bobl sy'n talu bil trydan."

Mae yna nifer o arddangosfeydd wedi eu trefnu ar Ynys Môn a Glannau'r Fenai rhwng nawr a dechrau Rhagfyr.

Bydd y Grid Cenedlaethol yn cyhoeddi eu llwybr dewisedig y flwyddyn nesaf a bydd proses ymgynghori arall yn dechrau bryd hynny.

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ymhen pedair blynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.