Etholiad: Ailgyfrif pledleisiau

Allan Pennington (ch) a Paul Penlington (dde)
Derbyniodd Allan Pennington (chwith) bleidleisiau a oedd i fod i Paul Penlington, yr ymgeisydd Llafur

Bydd etholwyr Prestatyn yn cael clywed ddydd Llun pwy yw un o'u cynghorwyr sir yn dilyn ailgyfrif yn yr Uchel Lys.

Cafodd y canlyniad gwreiddiol yn ward y gogledd ei ddileu oherwydd camgymeriad wrth gyfrif y pleidleisiau.

Ym mis Mai fe gyhoeddwyd fod y Ceidwadwr Allan Pennington wedi sicrhau 580 o bleidleisiau, gyda Paul Penlington o'r blaid Lafur yn sicrhau 366.

Llafur enillodd y ddwy sedd arall yn y ward.

Ond yn ddiweddarach daeth i'r amlwg fod rhai o bleidleisiau Mr Penlington wedi eu camgyfrif, a'u cyfrif fel pleidleisiau i Mr Pennington.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych mai camgymeriad dynol arweiniodd at y sefyllfa yn ward gogledd Prestatyn.

Cafodd yr ailgyfrif ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain.