Cerflun Stanley wedi ei ddifrodi

Cerflun HM Stanley Image copyright Pete Eddy
Image caption Cafodd y cerflun ei godi ym mis Mawrth

Mae cerflun dadleuol o'r anturiaethwr HM Stanley wedi cael ei ddifrodi a'i lywio'n wyn.

Mae'n debyg nad paent a ddefnyddiwyd, gan fod y rhan fwyaf o'r deunydd gwyn wedi cael ei olchi ffwrdd yn y glaw.

Cafodd y cerflun £31,000 ei godi ym Mawrth 2011 ar ôl i gynghorwyr bleidleisio o'i blaid.

Ond roedd nifer yn gwrthwynebu'r syniad, gan ddweud fod Stanley yn euog o droseddau yn erbyn ei gyd-ddyn ac yn ddyn oedd o blaid caethwasiaeth.

Fe wnaeth 50 o bobl arwyddo llythyr agored yn gwrthwynebu'r cerflun.

"Gwelais y difrod wrth i mi fynd am dro," meddai Pete Eddy, 70 oed, wrth y Daily Post.

"Mae'n bechod oherwydd mae'r cerflun wedi ei wneud yn dda a does neb yn hoff o fandaliaeth.

"Dwi ddim yn credu bod y difrod yn ddifrifol a dwi'n sicr y bydd modd ei adfer heb fawr o broblem."

Mae'r cerflun yn dangos Stanley yn paratoi i gyfarch yr anturiaethwr Dr Livingstone yn Affrica yn 1871.

Cafodd Stanley, David Rowlands oedd ei enw iawn, ei eni yn Ninbych yn 1841 cyn cael ei fagu yn wyrcws Llanelwy.

Mae yna gerflun hefyd wedi ei godi i Stanley yn Llanelwy.

Dywedodd Gaynor Morgan Rees, cynghorydd tre yn Ninbych, nad oedd hi'n credu bod y difrod yn rhywbeth oedd wedi ei gynllunio o flaen llaw.

"Pe baid hynny'n wir byddant wedi defnyddio rhywbeth oedd yn fwy parhaol.

"Mae yna ychydig o anghytuno wedi bod ynglŷn â'r cerflun, ond mae'r rhan fwyaf o'i blaid."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.