Tân Prestatyn: Cyhuddo menyw o lofruddiaethau

Lee-Anne Shiers, Charlie Timbrell, Skye Allen, Bailey Allen Image copyright North Wales Police
Image caption Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis Charlie Timbrell, ei nith Skye, dwy oed, a'i nai Bailey Allen, pedair oed

Mae menyw wedi'i chyhuddo o lofruddio pedwar o bobl, gan gynnwys tri o blant, ar ôl tân mewn fflat ym Mhrestatyn.

Mae Melanie Jane Smith, 42 oed, yn wynebu cyhuddiadau eraill hefyd wythnos a hanner ar ôl y tân.

Cafodd ei chyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd a bygythiadau i gyflawni difrod troseddol yn dilyn y tân ar Hydref 19.

Fe fydd hi'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Prestatyn fore Mawrth.

'Digon o dystiolaeth'

Image copyright other
Image caption Bydd Melanie Jane Smith yn ymddangos gerbron ynadon fore Mawrth

Meddai Karen Dixon, yr erlynydd rhanbarthol y Goron: "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru wrth i'w hymchwiliad i'r tân trasig hwn ddatblygu.

"Ein rôl ar hyn o bryd yw adolygu'r dystiolaeth a gasgliwyd hyd yma gan Heddlu Gogledd Cymru a rhoi cyngor mewn perthynas â difrod troseddol.

"Gallaf gadarnhau, wedi i ni gynnal adolygiad manwl o'r dystiolaeth, ein bod wedi dod i'r casgliad fod digon o dystiolaeth i gyhuddo Melanie Jane Smith o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, un cyhuddiad o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd ac un cyhuddiad o fygwth i achosi difrod troseddol."

Dywedodd Ms Dixon fod Ms Smith wedi cael ei chyhuddo o'r troseddau hyn er lles y cyhoedd.

Ychwanegodd: "Gyda'r broses gyfreithiol eisoes ar droed, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd cynnal cywirdeb yr ymchwiliad heddlu a hawl y diffynnydd i gael achos teg.

"Byddwn felly yn gofyn nad oes unrhyw beth yn cael ei gyhoeddi a allai danseilio'r broses gyfiawnder."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.