Llys: Disgybl wedi 'hacio cyfrifiadur ysgol'

Ysgol Uwchradd Eirias
Image caption Mae Matthew Higgins yn gwadu cael at ddata cyfrifiadurol heb ganiatad yn Ysgol Uwchradd Eirias

Fe wnaeth disgybl hacio system gyfrifiadur ysgol i gael manylion merch cyn brolio am y weithred ar fforwm i hacwyr, clywodd llys ddydd Llun.

Mae Matthew Higgins, sydd bellach yn fyfyriwr prifysgol 20 oed, yn gwadu cael mynediad at ddata cyfrifiadurol heb ganiatâd yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ddwywaith mewn dau fis.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod yr achos yn ymwneud â "dyn ifanc dawnus" oedd wedi cael ei ddal wrth gyflawni'r weithred.

Mae Mr Higgins yn honni ei fod wedi dioddef cynllwyn i ffugio tystiolaeth yn ei erbyn.

E-bost ffug

Clywodd y llys fod Mr Higgins, sydd yn fab i Arolygydd Heddlu, wedi cael at ffeil gyfrifiadurol y ferch cyn anfon e-bost ffug at yr Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli Gorllewin Clwyd, Darren Millar.

Honnodd yr e-bost fod gan yr ysgol system rhyngrwyd anniogel.

Dywedodd Mr Higgins wrth yr heddlu fod rhywun wedi hacio ei gyfrifiadur.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Higgins yn ceisio creu'r ddelwedd ei fod yn ddioddefwr.

Mae'r achos yn parhau.