Carchar am oes i lofrudd

Gavin Mills Image copyright Gwent Police
Image caption Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent nad oedd yna unrhyw gymhelliad am yr ymosodiad

Yn Llys y Goron Casnewydd cafodd dyn ei garcharu am oes am lofruddio pobydd o wlad Pwyl ar ôl ei bwnio a'i gicio yn y ddinas.

Roedd Jerzy Dubiniec, 60 oed, newydd symud i Gymru rai wythnosau ynghynt pan ymosodwyd arno gan Gavin Mills, 25 oed.

Roedd y tad-cu, nad oedd yn gallu siarad Saesneg, yn dychwelyd adre o shifft nos pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron roedd hwn yn ymosodiad milain ar ddyn diniwed.

Fe wnaeth Mills newid ei ble i un o euog ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent nad oedd yna unrhyw gymhelliad am yr ymosodiad.