Cwmni i dalu mwy i ffermwyr am laeth

Proper Welsh Milk
Image caption Agorodd llaethdy Proper Welsh Milk ar safle hen laethdy Hendy-gwyn yn 2011.

Mae cyflenwyr llaeth yng Nghymru wedi lansio ymgyrch i annog pobl i gefnogi'r diwydiant drwy brynu cynnyrch sy'n cael ei gynhyrchu a'i brosesu yma.

Mae ymgyrch Achub Llaeth Cymru yn cael ei arwain gan gwmni Proper Welsh Milk o Hendy-gwyn.

Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n talu 3c y litr yn ychwanegol i'w cyflenwyr.

Dywed y cwmni fod siopwyr wedi dweud wrthyn nhw y bydden nhw'n hapus i dalu mwy am gynnyrch lleol i warchod swyddi Cymreig.

Cynnyrch lleol

Dywedodd Richard Arnold, cyfarwyddwr cwmni Proper Welsh Milk, sydd wedi lansio ymgyrch Achub Llaeth Cymru, eu bod yn talu mwy i ffermwyr i gadw prosesu llaeth yng Nghymru.

"Ers blwyddyn rydym wedi potelu ein llaeth yng Nghymry ond mae llawer o'r llaeth ar gyfer archfarchnadoedd yn mynd allan o Gymru cyn dychwelyd ar ôl cael eu potelu yno," meddai.

Image caption Dywedodd Mark Granton ni fyddai'n rhaid i gwsmeriaid dalu mwy yn siopau Tesco

"Yn ystod y flwyddyn rydym wedi bod yn gweithredu mae tri llaethdy bach yng Ngorllewin Cymru wedi cau yn ogystal â llaethdy mawr yn y gogledd.

"Mae'r sector llaeth yn colli swyddi yng Nghymru."

Ychwanegodd Mr Arnold fod siopwyr wedi dweud wrthynt y bydden nhw'n hapus i dalu mwy am gynnyrch lleol.

Dywedodd Mark Granton, uwch brynwr cynnyrch lleol y cwmni yng Nghymru fod y llaethdy wedi codi pris ei llaeth 3c bythefnos yn ôl ond ni fyddai cwsmeriaid yn gorfod talu mwy yn siopau Tesco.

"Ar hyn o bryd does genyn ni ddim cynlluniau i newid unrhyw beth. Ni fydd yn rhaid i'r cwsmer dalu'r 3c ychwanegol.

Yn ystod yr haf bu protestiadau y tu allan i brosesfeydd llaeth yn Lloegr wedi i bedwar cwmni ddweud eu bod yn bwriadu talu llai am eu llaeth.

Bu cyfarfodydd protest yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch am bris teg hefyd.

Agorodd llaethdy Proper Welsh Milk ar safle hen laethdy Hendy-gwyn yn 2011.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.