Lerpwl 1-3 Abertawe

  • 31 Hydref 2012
Chico Flores yn sgorio i Abertawe
Chico Flores roddodd yr Elyrch ar y blaen yn Anfield

Lerpwl 1-3 Abertawe

Roedd y croeso yn gynnes gan reolwr Lerpwl, Brendan Rodgers, i'w gyn dîm yn gynnes ond doedd y canlyniad ddim yn plesio'r Gwyddel.

Er bod Lerpwl wedi rhoi gorffwys i nifer o'r ser ar gyfer y gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan Capital One, roedd Rodgers yn credu bod yr 11 oedd ar y cae yn ddigon da i fynd â Lerpwl ymlaen i'r rownd nesaf.

Ond er bod ambell un o dîm cyntaf Abertawe hefyd wedi cael gorffwys, yr Elyrch gafodd y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf.

Abertawe gafodd mwyafrif y meddiant ac ergydion at y gôl, ac roedden nhw'n haeddu'r fantais a ddaeth wedi 34 munud.

Yr amddiffynwr o Sbaen, Chico Flores oedd yn y man iawn i benio cic gornel Jonathan De Guzman i'r rhwyd i roi Abertawe ar y blaen.

Eilyddion

Wedi'r egwyl, fe benderfynnodd Rodgers ddod â'r gynnau mawr ymlaen i geisio ennill y gêm, ac fe ddaeth Steven Gerrard a Luis Suarez ymlaen ar gyfer yr ail hanner.

Cafodd Abertawe wybod yn gynharach yn yr wythnos na fydd eu golwr, Michael Vorm, ar gael am tua wyth wythnos oherwydd anaf, ond roedd Gerhard Tremmell yn eilydd da yn Anfield.

Wrth i Lerpwl greu mwy o gyfleon yn yr ail gyfnod, roedd Tremmell yn ddigon da i gadw'i dîm ar y blaen dro ar ôl tro.

Roedd Abertawe yn dal i bwyso y pen arall o bryd i'w gilydd, ac wedi 72 munud fe ddaeth yr ail - Pablo Hernandez yn creu a Nathan Dyer yn rhwydo.

Roedd angen yr ail gôl oherwydd fe sgoriodd Lerpwl un eu hunain bedwar munud yn ddiweddarach, gyda dau o'r ser yn cyfuno.

Steven Gerrard groesodd a Luis Suarex beniod y bêl i'r rhwyd i ddod â Lerpwl yn ôl iddi.

Byddai rhywun wedi disgwyl i Abertawe orfod amddiffyn am weddill y gêm, ac er fod hynny'n wir i raddau, yr Elyrch gipiodd gôl arall cyn diwedd y gêm.

Yn y funud olaf y sgoriodd Jonathan De Guzman i sicrhau lle Abertawe yn y rownd nesaf, a sicrhau noson anghyffyrddus iawn i Brendan Rodgers.