Y sianel yn ddechrau cyfnod newydd

Sian Thomas Image copyright S4C
Image caption Sian Thomas oedd un o'r wynebau cyntaf i ymddangos ar y sianel

Roedd Tachwedd y cyntaf 1982 yn ddechrau cyfnod newydd i'r byd teledu yng Nghymru - am chwech yr hwyr, dechreuodd S4C ddarlledu am y tro cyntaf.

Nid yn unig roedd hi'n sianel newydd sbon, ond hefyd roedd 'na drefn newydd o gynhyrchu rhaglenni.

Roedd S4C yn derbyn 10 awr o raglenni'r wythnos gan BBC Cymru ac wyth awr gan HTV Cymru.

Fe ddaeth y gweddill gan gwmnïau annibynnol - nifer ohonyn nhw wedi'u sefydlu'n uniongyrchol i ddiwallu anghenion y sianel newydd.

'Syniadau gwahanol'

Yn ôl pennaeth rhaglenni cyntaf S4C, Euryn Ogwen Williams, roedd creu y sector yn fenter ond roedd yn gweld hwn yn gyfle i gynhyrchu rhaglenni mewn ffordd wahanol.

"Roeddwn i wedi gweithio yn y ddwy gyfundrefn gyda'r holl fiwrocratiaeth a'r undebau'n gryf, ac yn sylweddoli bod rhaglenni yn costio fwy nag y dylen nhw. Nid yn unig hynny, roedd 'na unigolion allan yna â syniadau gwahanol, ac roedd angen hynny."

Yn y ddwy flynedd gyntaf, roedd rhyw hanner cant o gwmnïau gwahanol wedi cyflenwi rhaglenni i S4C, gyda nifer o'r rheini wedi'u lleoli y tu fas i Gaerdydd - yn enwedig yn ardal Caernarfon.

Roedd hynny yn bolisi bwriadol gan y sianel, yn ôl Mr Williams.

"Yr unig ffordd i ni fod yn perthyn i Gymru gyfan oedd trwy gynhyrchwyr annibynnol, oedd yn mynd allan ac yn dod a phobl yn rhan o gynyrchiadau fel nag oedden nhw erioed o'r blaen," meddai.

Hyblyg

O ddramâu fel Minafon, rhaglenni comedi fel C'mon Midffild, cyfresi adloniant fel Noson Lawen a'r gyfres ddogfen Almanac - ers y dechrau roedd cyfraniad y cwmnïau annibynnol yn allweddol.

"Maen nhw'n nifer o'r rhaglenni 'da ni'n eu cofio heddiw, ac efallai eu bod nhw wedi cael y ddarpariaeth fwyaf deniadol achos bod nhw'n gallu bod yn llawer mwy hyblyg na'r BBC ac HTV, ac roedden nhw mor frwd dros y sianel," meddai'r Dr Elain Price o Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi gwneud gwaith ymchwil i flynyddoedd cynnar S4C.

Ond mae Euryn Ogwen Williams yn siomedig nad oedd eu cyfraniad economaidd yn gallu bod yn fwy, oherwydd nad oedd 'na ddigon o fuddsoddiad ar gael.

"Er enghraifft mae rhywun yn edrych ar animeiddio, roedden ni mewn lle mor gryf ac mae'n bur debyg pe bai'r cynulliad wedi dod deng mlynedd ynghynt y bydden ni wedi gallu rhoi pethe ar waith i gynnal y peth economaidd i wneud mwy o gyfraniad," meddai.

Cythryblus

Beth felly am y dyfodol?

Mae S4C wedi gweld ei chyllid yn lleihau dros y blynyddoedd diwethaf, a'r flwyddyn nesa' daw'r drefn gyllido newydd trwy law'r BBC a'r drwydded deledu i rym.

Ar ôl cyfnod cythryblus y blynyddoedd diweddar, mae cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Iestyn Garlick, yn credu bod y sector wedi sefydlogi.

"Ar hyn o bryd mae rhywun yn derbyn ein bod mewn dirwasgiad. Mae rhywun yn gobeithio y gall y sefyllfa newid ymhen pum mlynedd neu ddeng mlynedd, a falle bod modd cael mwy o arian, neu falle bydd S4C a'r cwmniau annibynnol wedi ffeindio ffordd o greu yr arian eu hunain".