Ambiwlans awyr newydd i bobl Cymru 'gyda'r gorau yn y DU'

Ambiwlans awyr diweddara Cymru
Image caption Cartref yr hofrennydd newydd fydd Y Trallwng ym Mhowys

Mae gan Gymru ambiwlans awyr newydd.

Fe'i disgrifiwyd fel "y mwyaf blaengar yn y DU" a bydd yn gweithredu yng nghanolbarth Cymru.

Bydd yr hofrennydd newydd yn gallu hedfan yn y nos ac mewn tywydd gwael, yn gallu cyrraedd cyflymder o 150mya, ac yn disodli'r un presennol sy'n 20 oed.

Dyma'r olaf o'r tri hofrennydd yng Nghymru i gael ei gyfnewid wedi i'r elusen sy'n gyfrifol godi £600,000 yn ychwanegol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen ei fod "yn perthyn i bobl Cymru".

'Ambiwlans pobl Cymru'

Bydd yr hofrennydd yn dechrau gweithio ddydd Gwener, ac yn medru cyrraedd Aberystwyth o'i gartref yn Y Trallwng mewn 12 munud.

Mae mwy o le arno ar gyfer parafeddygon i drin cleifion, ac mae ganddo dechnoleg radar sy'n medru adnabod tywydd gwael o'i flaen.

Dywedodd llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r hofrennydd yma gyda'r mwyaf blaengar sy'n hedfan yn y DU ar hyn o bryd.

"Mae'n newydd sbon danlli, yn syth o'r ffatri ac mae ganddo'r holl ychwanegiadau mwyaf newydd arno.

"Mae'r geiriau ar yr ochr - 'Ariannwyd gan bobl Cymru' - wastad wedi bod y tu ôl i bopeth yr ydym wedi ei wneud.

"Nid ein hofrennydd ni yw hwn.

"Mae'n perthyn i bobl Cymru oherwydd nhw sydd wedi talu amdano, ac os na fydden nhw'n credu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud, fydden nhw ddim yn fodlon talu am rywbeth fel hyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.