Ymchwiliad wedi i wn gael ei danio ger cartref Dug a Duges Caergrawnt

Dug a Duges Caergrawnt Image copyright AP
Image caption Mae'r digwyddiad tu allan i gartref y cwpl Brenhinol yn cael ei drin fel damwain

Mae hi wedi dod i'r amlwg bod un o swyddogion yr heddlu sy'n gwarchod cartref Dug a Duges Caergrawnt ar Ynys Môn wedi tanio gwn yn ddamweiniol.

Dywedodd Heddlu Scotland Yard eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ar Hydref 24.

Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Roedd y swyddog yn eistedd yn un o gerbydau'r heddlu gyda heddwas arall pan wnaeth danio'r gwn.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met fod yr heddwas wedi cael ei symud oddi ar ddyletswyddau yn ymwneud ag arfau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

"Toc cyn 1pm ddydd Mercher Hydref 24 fe wnaeth heddwas Heddlu'r Met ar ddyletswydd danio gwn yn anfwriadol tra ei fod mewn cerbyd plaen yr heddlu," meddai llefarydd.

"Fe wnaed difrod i lawr y cerbyd.

"Roedd heddwas arall ar ddyletswydd yn y cerbyd ar y pryd.

"Chafodd neb eu hanafu.

"Roedd y swyddogion ar ddyletswydd yng ngogledd Cymru ar y pryd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.