Y car rasio 'Babs' yn ymweld â Wrecsam

Car
Image caption Cafodd 'Babs' ei gyrru gan J. G. Parry Thomas o Wrecsam yn 1926

Mae car rasio a osododd record cyflymder y byd yn 1926 yn ymweld â Wrecsam.

Cafodd 'Babs' ei llunio, adeiladu a'i gyrru gan J. G. Parry Thomas o'r dref.

Yn 1926 cofnododd Parry Thomas y record ar draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Llwyddodd i gofnodi 171 milltir yr awr ar dir.

Fe'i lladdwyd y flwyddyn ddilynol wrth yrru'r car a chladdwyd Babs dan y twyni tywod ger Traeth Pentywyn.

Aeth 42 mlynedd heibio cyn i Owen Wyn Owen, darlithydd peirianneg ym Mhrifysgol Bangor, gloddio ac adfer y car.

Trefnwyd ymweliad Babs â Wrecsam gan Jon Gammond o Amgueddfa Wrecsam.

"Mae gan Babs gysylltiad cryf â Wrecsam," meddai.

Tyfu fyny

"Cafodd Parry Thomas ei eni yn Wrecsam ac mae'n un o arwyr rasio Cymru a Phrydain.

"Roedden yn lwcus ein bod wedi gallu trefnu'r ymweliad yma ac mae wedi denu sawl un sydd â diddordeb mewn ceir na fyddai fel arfer yn ymweld â'r amgueddfa."

Image caption Tad Dr Geraint Owen oedd yn gyfrifol am adfer y car

Ym ymweld â Wrecsam gyda Babs oedd Dr Geraint Owen, mab y dyn a adferodd y car.

Roedd yn cofio ei dad yn gweithio ar y car tra roedd yntau'n blentyn.

"Roeddwn tua 11 mis o oed pan gloddiodd fy nhad y car," meddai.

"Tyfais i fyny gyda 'nhad yn gweithio arno.

"Gallaf gofio'n glir y diwrnod cyntaf y rhedodd y car.

"Roeddwn rhyw dair blwydd oed ar y pryd."

Bu farw Owen Wyn Owen yn gynharach yn y flwyddyn a dywedodd Dr Owen ei bod wedi etifeddu ei ddiddordeb mewn ceir.

"Dwi'n gweithio fel darlithydd mewn peirianneg fodurol ym Mhrifysgol Bath ac mae ceir yn rhan bwysig o'm mywyd."

Roedd Dr Owen yn falch o weld cymaint o bobl Wrecsam oedd wedi dod i'r amgueddfa i weld Babs.

"Mae'n dda bod yna ddiddordeb yn y car yma," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.