Canslo perfformiad Cymraeg arloesol

Ed Holden
Image caption Ed Holden fyddai wedi bod y person cyntaf i berfformio yn Gymraeg yn noson MOBO

Roedd myfyriwr ym Mhrifysgol Morgannwg i fod i berfformio yn noson wobrwyo MOBO nos Sadwrn - y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei chlywed yn y digwyddiad.

Ond cafodd Ed Holden - sy'n defnyddio'r enw llwyfan Mr Phormula - wybod ddydd Iau fod y perfformiad fel rhan o anthem rapio'r DU yn Arena'r Liverpool Echo ac yn rhan o'r MOBOs (Music Of Black Origin) - wedi cael ei ganslo gan y trefnwyr.

Fe wnaeth Ed, 28 oed o Lanfrothen yng Ngwynedd, recordio'r trac ochr yn ochr ag artistiaid rap eraill ar gyfer Rap Britannia, rhaglen ddogfen gan y BBC am y sin rapio ym Mhrydain.

Ond dywedodd trefnwyr y noson na fyddai'r gan yn cael ei pherfformio ar y noson am nad oedd "enw mawr" yn rhan o'r grŵp.

Trydar

Roedd Ed yn siomedig iawn am y penderfyniad, a dywedodd: "Roeddwn i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael perfformio yn Gymraeg ar lwyfan mawr fel hyn.

"Fe fyddai wedi bod yn gam mawr ymlaen i rapio Cymraeg, ac roeddwn i'n falch o gael y cyfle.

"Ond mae'r pethau yma'n digwydd ar y lefel yma a does dim y medra i neud am y peth."

Y siom fwyaf i Ed oedd na chafodd wybod yn bersonol gan y trefnwyr.

"Nes i ond clywed bod o wedi ei ganslo ddoe, a hynny mewn 'tweet' gan rywun arall," meddai.

"Ges i ddim ymddiheuriad na dim am y peth."

Mae'r gân - UK Rap Anthem - wedi cael ei gwylio dros 300,000 o weithiau ar wefan You Tube ers iddi gael ei chyhoeddi.

Nid yw Ed am adael i'r ergyd effeithio ar ei waith ym myd cerddoriaeth.

Dywedodd ei fod am barhau i berfformio'i waith gan obeithio am gyfle arall yn y dyfodol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.