Wyth ymgeisydd mewn isetholiad

Street in Cardiff South and Penarth constituency Image copyright Steve Duffy
Image caption Mae dros 98,000 o bobl yn byw yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth

Bydd enw wyth ymgeisydd ar y papur pleidleisio ar gyfer isetholiad seneddol De Caerdydd a Phenarth.

Daw'r isetholiad yn dilyn ymddiswyddiad yr AS Llafur Alun Michael, a fydd yn sefyll yn yr etholiad i ddewis Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.

Bydd y pleidleisio ar gyfer y ddau etholiad yn digwydd ar ddydd Iau, Tachwedd 15.

Caeodd y rhestr enwebiadau ar Hydref 31.

Yr wyth ymgeisydd yw :-

  • Stephen Doughty (Llafur)
  • Robert Griffiths (Comiwnydd)
  • Andrew Jordan (Llafur Sosialaidd)
  • Bablin Molik (Democrat Rhyddfyrdol)
  • Luke Nicholas (Plaid Cymru)
  • Anthony Slaughter (Y Blaid Werdd)
  • Craig Williams (Ceidwadwr)
  • Simon Zeigler (UKIP)

Bydd Mr Michael yn sefyll yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ochr yn ochr â Michael Baker (Annibynnol), Caroline Jones (Ceidwadwr) a Tony Verderame (Annibynnol).

Straeon perthnasol