Milfeddyg: Heddlu'n chwilio mewn tŷ

Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Cafodd Catherine Gowing ei gweld am y tro diwethaf yn gadael archfarchnad ar Hydref 12

Mae Heddlu'r Gogledd sy'n chwilio am y milfeddyg Catherine Gowing wedi cadarnhau eu bod yn chwilio tŷ yn ardal Sealand, Sir y Fflint.

Dywed yr heddlu fod y safle yn un o nifer sy'n cael eu harchwilio fel rhan o'r ymchwiliad.

Mae'r heddlu hefyd wedi bod yn archwilio cae yn Sealand, ar ôl i weddillion dynol gael eu darganfod yno.

Does neb wedi gweld y milfeddyg, 37 oed sy'n wreiddiol o Weriniaeth Iwerddon ers Hydref 12.

Mae dyn 46 oed o Fethesda, Clive Sharp, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ddod o hyd i weddillion dynol mewn pwll mewn cae.

Er nad oes cadarnhad fod y darganfyddiad yn gysylltiedig mae teulu Ms Gowing, sy'n byw yn New Brighton ger Yr Wyddgrug, wedi eu hysbysu.

Mae crwner dros dro gogledd-ddwyrain Cymru yn dweud ei fod yn disgwyl agor cwest yn fuan i'r farwolaeth.

Dywedodd John Gittins ei fod wedi cael ei hysbysu wedi i'r heddlu ddod o hyd i weddillion dynol.

Cafodd Ms Gowing, sy'n gweithio i filfeddygfa yn Yr Wyddgrug, ei gweld ddiwethaf yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry tua 8:40pm.

Image caption Mae'r chwilio wedi canolbwyntio ar gaeau ger Manor Road yn Sealand

Dechreuodd ymgyrch anferth gan yr heddlu i chwilio am Ms Gowing, gan ganolbwyntio i ddechrau ar hen chwarel yn Alltami ger Yr Wyddgrug lle cafwyd hyd i'w char wedi ei losgi'n ulw.

Mae'r heddlu yn dal i ofyn i bobl gysylltu gyda nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad, a hynny drwy ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol