Dyn yn cael ei anafu gan drên

Cafodd dyn yn ei 20au ei anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan drên yn sir Gaerfryddin.

Dywed Heddlu Trafnidiaeth iddo gael ei daro ym mhentref Llandybie, ger Rhydaman nos Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig cyn 5.30pm.

Ar ôl derbyn triniaeth gan barafeddygon cafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.

Dyw'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.