Milfeddyg: Agor a gohirio cwest

Catherine Gowing Image copyright North Wales Police
Image caption Cafodd Catherine Gowing ei gweld yn gadael archfarchnad ar Hydref 12

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth y milfeddyg Catherine Gowing o'r Wyddgrug.

Dywedodd crwner dros dro gogledd ddwyrain Cymru John Gittins fod manylion achos marwolaeth wedi eu gohirio.

Cafodd y ddynes 37 oed ei gweld yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry tua 8:40pm ar Hydref 12.

Dywedodd yr heddlu ddydd Sul fod rhannau ei chorff wedi eu darganfod yn Sealand yn Sir y Fflint ddydd Mercher diwethaf.

Mae Clive Sharp, 46 oed o Fethesda, wedi ei gyhuddo o lofruddio a bydd o flaen llys yn Ionawr.

Straeon perthnasol